Bournemouth, Christchurch a Poole
awdurdod unedol yn Dorset
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Dorset, De-orllewin Lloegr, yw Bournemouth, Christchurch a Poole (Saesneg: Bournemouth, Christchurch and Poole).
Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr |
---|---|
Poblogaeth | 400,196 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dorset (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 161.3 km² |
Cyfesurynnau | 50.723°N 1.882°W |
Cod SYG | E06000058 |
GB-BCP | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Bournemouth, Christchurch and Poole Council |
Mae gan yr ardal arwynebedd o 161 km², gyda 395,331 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ag awdurdod unedol Dorset i'r gogledd-orllewin, yn ogystal â Hampshire i'r gogledd-ddwyrain a'r Môr Udd i'r de.
Crëwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 2019 trwy cyfuno y ddau awdurdod unedol Bwrdeistref Bournemouth a Bwrdeistref Poole â'r ardal an-fetropolitan Christchurch.
Mae'r awdurdod yn hollol ddi-blwyf. Mae'n ffurfio'r rhan fwyaf o Gytref De-ddwyrain Dorset. Yn ogystal â'r prif drefi Bournemouth, Christchurch a Poole, mae'n cynnwys nifer o bentrefi llai.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 31 Hydref 2020