Cytundeb Tordesillas

Cytundeb rhyngwladol rhwng Ymerodraeth Sbaen ac Ymerodraeth Portiwgal oedd Cytundeb Tordesillas (Sbaeneg: Tratado de Tordesillas, Portiwgaleg: Tratado de Tordesilhas) a arwyddwyd yn Tordesillas, Sbaen, ar 7 Mehefin 1494. Ei nod oedd i atal brwydro rhwng y ddwy ymerodraeth dros y Byd Newydd drwy sefydlu llinell derfyn i gydnabod hawl y Sbaenwyr i'r holl diriogaeth y tu hwnt i orllewin yr honno, ac hawl y Portiwgaliaid i unrhyw diroedd newydd a ddarganfyddwyd i'w dwyrain.

Cytundeb Tordesillas
Enghraifft o'r canlynolcytundeb Edit this on Wikidata
Dyddiad7 Mehefin 1494 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganInter caetera Edit this on Wikidata
LleoliadTordesillas Edit this on Wikidata
Yn cynnwysDemarcation line of Alexander VI Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolMemory of the World Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Portiwgal, Ymerodraeth Sbaen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ym 1494, wedi i Fernando V ac Isabel I—"Teyrnoedd Catholig" Sbaen—glywed am ddarganfyddiad yr Amerig gan Cristoforo Colombo, erfynasant ar y Pab Alecsander VI i gefnogi hawliau Coron Castilla i diriogaeth y Byd Newydd. Cyhoeddodd Alecsander fyliau i sefydlu llinell derfyn o begwn y gogledd i begwn y de, 100 lîg (320 milltir) i orllewin ynysoedd Cabo Verde, a chydnabod hawl y Sbaenwyr i unrhyw diroedd a ddarganfyddwyd y tu hwnt i'r llinell honno. Ar orchymyn y pab, cyfyngwyd mordeithiau a glaniadau'r Portiwgaliaid i ddwyrain y llinell derfyn, ac nid oedd Sbaen na Phortiwgal i feddiannu unrhyw diriogaeth a oedd eisoes dan feddiant gwladwriaeth Gristnogol.

Ni dderbyniwyd y terfyniad hwnnw gan unrhyw rym Ewropeaidd arall ar lannau'r Iwerydd, a mynnodd Ioan II, brenin Portiwgal yn enwedig ragor o le ar y môr i'w longau fforio arfordir Affrica. Yn Tordesillas, cytunodd llysgenhadon o Sbaen a Phortiwgal i symud y llinell derfyn 270 lîg i'r gorllewin, sef 370 lîg (1,185 milltir) i orllewin Cape Verde. Cydnabuwyd y setliad hwnnw gan y Pab Iŵl II ym 1506.[1]

Wedi'r cytundeb, hawliodd Portiwgal draethau gogleddol Brasil wedi i Pedro Álvares Cabral lanio yno ym 1500. Yn ddiweddarach, ymestynodd y diriogaeth Bortiwgalaidd ym mherfeddwlad Brasil y tu hwnt i linell derfyn Cytundeb Tordesillas.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Treaty of Tordesillas. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Chwefror 2023.