D. Geraint Lewis

Awdur a geiriadurwr o Gymro

Awdur Cymreig yw D. Geraint Lewis (ganed 1944).

D. Geraint Lewis
Ganwyd1944 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllenor, geiriadurwr Edit this on Wikidata

Yn frodor o Ynys-y-bwl, cafodd Geraint ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Pontypridd, a Choleg y Brifysgol Aberystwyth.[1]

Mae'n eiriadurwr toreithiog, ac yn awdur nifer o lyfrau iaith hynod ddefnyddiol megis Geiriadur Gomer i'r Ifanc (enillydd Gwobr Tir Na N'og 1995 am lyfr plant gorau'r flwyddyn (ac eithrio ffuglen), a lliaws o lawlyfrau bychain megis Y Llyfr Berfau, Pa Arddodiad? a'r Treigliadur.

Mae ffrwyth ei ddiddordebau cerddorol yn cynnwys y casgliad safonol o ganeuon gwerin Cân Di Bennill (2003).

Daeth yn Ysgrifennydd Er Anrhydedd Cyngor Llyfrau Cymru ym 1986. Ym mis Gorffennaf 2014 cafodd ei urddo'n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.[2]

Cyhoeddiadau

golygu
  • Clychau'r Nadolig: Carolau Nadolig i Blant (Gwasg Pantycelyn, 1992)
  • Geiriadur Gomer i'r Ifanc (Gomer, 1994)
  • Y Llyfr Berfau (Gomer, 1995)
  • (gyda Angela Wilkes) Fy Llyfr Geiriau Cyntaf (Aberystwyth: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1995)
  • Y Treigladur (Gomer, 1996)
  • Termau Llywodraeth Leol (Gomer, 1996)
  • Y Geiriau Lletchwith: A Check-list of Irregular Words and Spelling (Gomer, 1997)
  • Geiriadur Cynradd Gomer (Gomer, 1999)
  • Clywch Lu'r Nef: Carolau Nadolig i Blant (Gwasg Pantycelyn, 2001)
  • Cân Di Bennill (Gomer, 2003)
  • Lewisiana (Gomer, 2005)
  • A Shorter Welsh Dictionary (Gomer, 2005)
  • Pa Arddodiad?: A Check-list of Verbal Prepositions (Gomer, 2007)
  • Y Llyfr Enwau: Enwau'r Wlad (Gomer, 2007)
  • Geiriau Gorfoledd a Galar (Gomer, 2010)
  • Mewn Geiriau Eraill: Thesawrws i Blant (Gomer, 2011)
  • Ar Flaen fy Nhafod: Casgliad o Ymadroddion Cymraeg (Gomer, 2012)
  • Geiriadur Cynradd Gomer (Gomer, 2013)
  • Welsh-English/English-Welsh Dictionary (Glasgow: Waverley, 2013)
  • Y Llyfr Ansoddeiriau (Gomer, 2014)
  • Geiriadur Pinc a Glas Gomer (Gomer, 2014)
  • (gyda Nudd Lewis) Reading Welsh: An Essential Companion (Gomer, 2014)
  • (gyda Nudd Lewis) Geiriadur Gwybod y Geiriau Gomer (Gomer, 2015)
  • Geiriadur Cymraeg Gomer (Gomer, 2016)
  • Geiriadur Mor, Mwy, Mwyaf Gomer (Gomer, 2017)
  • Amhosib: Ffeithiau a Syniadau Fydd yn Newid dy Fyd am Byth (Y Lolfa, 2018)
  • D.I.Y. Welsh : Your Step-by-Step Guide to Building Welsh Sentences (Gomer, 2019)
  • Geiriau Difyr a Doeth o Bedwar Ban Byd (Gwasg Carreg Gwalch, 2019)
  • Yr Ansoddeiriau: A Comprehensive Collection of Welsh Adjectives (Y Lolfa, 2021) = Y Llyfr Ansoddeiriau (2014)
  • Enwau Cymru ac Enwau'r Cymry: Y Berthynas Annatod Rhwng y Wlad a'i Phobl (Gwasg Carreg Gwalch, 2020)
  • Berfau: A Check-list of Welsh Verbs (Y Lolfa, 2021) = Y Llyfr Berfau (1995)
  • Y Rhifolion (Y Lolfa, 2022)
  • Y Diarhebion: Casgliad o Ddiarhebion Cyfoes (Y Lolfa, 2022)
  • Oriel y Bardd: Dyfyniadau Doeth a Difyr o Waith y Beirdd (Cyhoeddiadau Barddas, 2023)

Ar-lein

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "D. Geraint Lewis"; Y Lolfa; adalwyd 21 Gorffennaf 2022
  2. "Urddo D Geraint Lewis yn Gymrawd"; Prifysgol Aberystwyth; adalwyd 21 Gorffennaf 2022