Ynysybŵl
Pentref mawr ym mwrdeisdref sirol Rhondda Cynon Taf yw Ynysybŵl, weithiau Ynys-y-bŵl (Cyfeirnod OS: ST0594). Saif tua 20 milltir i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Caerdydd, bedair milltir i'r gogledd o Bontypridd a 10 milltir i'r de o Ferthyr Tudful. Mae Nant Clydach yn llifo heibio iddo.
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynysybŵl a Choed-y-cwm ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.64°N 3.37°W ![]() |
Cod OS | ST054949 ![]() |
Cod post | CF37 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Vikki Howells (Llafur) |
AS/au | Beth Winter (Llafur) |
![]() | |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Beth Winter (Llafur).[1][2]
HanesGolygu
Cofnodir yr enw yn y ffurf Seisnigaidd "Ynys y Bool" mewn dogfen Saesneg yn 1738. Gair Cymraeg ydy "bŵl" sy'n golygu "powlen" - sydd mae'n bosib yn cyfeirio at siâp crwn y dyffryn.
Hyd y 1880au, roedd Ynysybŵl yn ardal amaethyddol. Agorwyd Glofa Lady Winsor yn 1886, a dechreuodd y pentref dyfu o'i hamgylch. Caewyd y lofa yma yn 1988.
Chwaraeon a diwylliantGolygu
Ceir côr a chlwb rygbi yma.
Cynhelir Ras Nos Galan yma bob blwyddyn, i goffáu Guto Nyth Brân.
EnwogionGolygu
- Garin Jenkins, chwaraewr rygbi rhyngwladol
- Leighton Rees, y cyntaf i fod yn bencampwr dartiau y byd
- William Hazell, arloeswr ac arweinydd y mudiad cydweithredol
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Trefi
Aberdâr · Aberpennar · Glynrhedynog · Llantrisant · Pontypridd · Y Porth · Tonypandy · Treorci
Pentrefi
Aberaman · Abercwmboi · Abercynon · Abernant · Y Beddau · Blaenclydach · Blaencwm · Blaenllechau · Blaenrhondda · Brynna · Brynsadler · Cefn Rhigos · Cefnpennar · Cilfynydd · Coed-elái · Coed-y-cwm · Cwmaman · Cwm-bach · Cwm Clydach · Cwmdâr · Cwm-parc · Cwmpennar · Y Cymer · Dinas Rhondda · Y Ddraenen Wen · Efail Isaf · Fernhill · Ffynnon Taf · Y Gelli · Gilfach Goch · Glan-bad · Glyn-coch · Glyn-taf · Y Groes-faen · Hirwaun · Llanharan · Llanhari · Llanilltud Faerdref · Llanwynno · Llwydcoed · Llwynypïa · Y Maerdy · Meisgyn · Nantgarw · Penderyn · Pendyrus · Penrhiw-ceibr · Penrhiw-fer · Penrhys · Pentre · Pentre'r Eglwys · Pen-yr-englyn · Pen-y-graig · Pen-y-waun · Pont-y-clun · Pont-y-gwaith · Y Rhigos · Rhydyfelin · Ton Pentre · Ton-teg · Tonyrefail · Tonysguboriau · Trealaw · Trebanog · Trecynon · Trefforest · Trehafod · Treherbert · Trehopcyn · Trewiliam · Tynewydd · Wattstown · Ynys-hir · Ynysmaerdy · Ynysybŵl · Ystrad Rhondda