Daeargryn Tsile 2010
(Ailgyfeiriad o Daeargryn Chile 2010)
Daeargryn ar raddfa 8.8 Mw gyda'i uwchganolbwynt ger arfordir Talaith Maule yn Tsile oedd daeargryn Tsile 2010. Tarodd y wlad am 03:34 amser lleol (06:34 UTC) ar 27 Chwefror 2010. Bu farw o leiaf 521 o bobl.
Enghraifft o'r canlynol | Daeargryn, tsunami |
---|---|
Dyddiad | 27 Chwefror 2010 |
Lladdwyd | 525 |
Lleoliad | Valparaíso Region, Santiago Metropolitan Region, O'Higgins Region, Maule, Bío Bío Region, Araucanía Region |
Gwladwriaeth | Tsile |
Hyd | 3 munud |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Seismoleg a daeareg
golyguÔl-gryniadau
golyguRecordiwyd ôl-gryniad o 6.2 Mw 20 munud wedi'r ddaeargryn wreiddiol. Dilynodd dau ôl-gryniad o 5.4 a 5.6 o fewn awr i'r ddaeargryn wreiddiol. Erbyn 6 Mawrth UTC, recordiwyd rhagor na 130 o ôl-gryniadau, gan gynnwys 13 a fesurodd yn uwch na 6.0 Mw.
Ar 2 Ionawr 2011 am 20:20:18 (17:20:18 ger ei uwchganolbwynt), tarodd ôl-gryniad 7.1 Mw 70 km i ogledd orllewin Temuco, Tsile.