Daeargryn Twrci–Syria 2023
Ar 6 Chwefror 2023, tarodd daeargryn gydag nifer o ôl-gryniadau yn ne a chanolbarth Twrci a gogledd a gorllewin Syria.[1][2] Digwyddodd 34 km (21 milltir) i'r gorllewin o ddinas Gaziantep am 04:17 AM TRT (01:17 UTC), gyda dwyster Mercalli uchaf o XI (Eithafol), a maint o leiaf Mw 7.8. Tarodd ail ddaeargryn Mw 7.7 naw awr yn ddiweddarach wedi ei leoli tua 95 km (59 milltir) i'r gogledd/gogledd-ddwyrain yn nhalaith Kahramanmaraş. Bu difrod eang a degau o filoedd o farwolaethau.
Enghraifft o'r canlynol | cyfres o ddaeargrynfeydd |
---|---|
Dyddiad | 6 Chwefror 2023 |
Lladdwyd | 50,132 |
Achos | Ffawtlin y môr marw |
Lleoliad | Gaziantep, Kahramanmaraş |
Gwladwriaeth | Twrci, Syria |
Rhanbarth | Gaziantep, Kahramanmaraş |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y daeargryn cyntaf oedd y mwyaf marwol a chryfaf yn Nhwrci ers daeargryn Erzincan 1939,[3] a'r ail gryfaf ar ôl daeargryn Gogledd Anatolia 1668.[4] Hwn hefyd oedd daeargryn mwyaf marwol yn Syria fodern, y mwyaf marwol ers daeargryn Aleppo 1822, un o'r daeargrynfeydd cryfaf a gofnodwyd erioed yn y Levant a'r daeargryn mwyaf marwol ledled y byd ers daeargryn Haiti yn 2010.[5][6] Fe'i teimlwyd ac fe achosodd ddifrod strwythurol cyn belled ag Israel, Libanus, Cyprus, ac arfordir Môr Du Twrci.[7]
Cafwyd dros 2,110 o ôl-gryniadau wedi'r ddau prif ddaeargryn. Ar 28 Chwefror, roedd dros 50,000 o farwolaethau wedi'u cofnodi; gyda ffigyrau o 44,000 yn Nhwrci a tua 6,000 yn Syria.[8] Roedd storm fawr aeafol yn amharu ar ymdrechion achub, gan eira yn disgyn ar yr adfeilion a'r tymheredd yn plymio.[9] Oherwydd y tymheredd rhewllyd yn yr ardaloedd, roedd perygl mawr o hypothermia i'r rhai oedd wedi goroesi, yn enwedig y rhai sydd wedi'u dal dan falurion.[10][11]
Ail Gryniad
golyguCafwyd ail gryniad yn y rhanbarth ar 21 Chwefror gyda cryniadau 6.4 a 5.8 yn nhalaith Hatay. Bu farw o leiaf 3 person ac anafwyd 213 yn yr adroddiadau cyntaf.[12]
Ymateb Cymru
golyguCyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod am ddarparu £300,000 o gymorth ariannol i roi cymorth brys a chyflym i bobl yr effeithiwyd arnynt gan y daeargryn. [13] Cododd Apêl Cymru £2.5m o fewn 6 diwrnod hyd at 17 Chwefror.[14]
Cafwyd apêl gan DEC ar 9 Chwefror a codwyd £1.2 miliwn ar y diwrnod cyntaf, yn cynnwys cyfraniad y Llywodraeth. Mae'r elusennau sy'n gweithio ar godi arian yn cynnwys Y Groes Goch Brydeinig, CAFOD, Cymorth Cristnogol, Oxfam Cymru, Achub y Plant a Tearfund.[15]
Aeth 5 diffoddwr tân o Gymru allan i Dwrci fel aelodau o dîm o 77 arbennigwyr gyda chorff Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU (UKISAR).[16]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Subramaniam, Tara; Mogul, Rhea; Renton, Adam; Sangal, Aditi; Vales, Leinz; Hammond, Elise; Chowdhury, Maureen; Vera, Amir (6 Chwefror 2023). "6 Chwefror 2023 Turkey-Syria earthquake news" (yn Saesneg). CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Chwefror 2023. Cyrchwyd 7 Chwefror 2023.
- ↑ "Live Updates Turkey, Syria earthquake kills thousands". AP News (yn Saesneg). 6 Chwefror 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Chwefror 2023. Cyrchwyd 7 Chwefror 2023.
- ↑ ISC (2022), ISC-GEM Global Instrumental Earthquake Catalogue (1904-2018), Version 9.1, International Seismological Centre, doi:10.31905/D808B825, http://www.isc.ac.uk/iscgem/index.php
- ↑ Marco Bohnhoff, Patricia Martínez-Garzón, Fatih Bulut, Eva Stierle, Yehuda Ben-Zion. "Maximum earthquake magnitudes along different sections of the North Anatolian fault zone". ScienceDirect. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Medi 2009. Cyrchwyd 6 Chwefror 2023.CS1 maint: uses authors parameter (link)
- ↑ Said-Moorhouse, L. (9 Chwefror 2023). "The earthquake in Turkey is one of the deadliest this century. Here's why". CNN International. Cyrchwyd 9 Chwefror 2023.
- ↑ "The world's deadliest earthquakes in the past 25 years, at a glance" (yn Saesneg). National Public Radio. Associated Press. 9 Chwefror 2023. Cyrchwyd 9 Chwefror 2023.
- ↑ Kuşçu, Selim. "Ordu'da deprem paniği" (yn Saesneg). İHA. Cyrchwyd 9 Chwefror 2023.
- ↑ "UN says at least 50,000 killed in Turkey and Syria quakes". AP NEWS (yn Saesneg). 2023-02-28. Cyrchwyd 2023-03-06.
- ↑ Hubbard, Ben (8 Chwefror 2023). "Live Updates: Erdogan Visits Quake Area as Death Toll Passes 11,600 in Turkey and Syria". The New York Times (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Chwefror 2023. Cyrchwyd 8 February 2023.
- ↑ Aziz, Saba (7 Chwefror 2023). "Turkey earthquake rescue efforts complicated by bitter cold. What to know - National | Globalnews.ca". Global News. Cyrchwyd 9 Chwefror 2023.
- ↑ Soylu, Ragip (6 Chwefror 2023). "Turkey earthquake: Survivors trapped under rubble face hypothermia threat". Middle East Eye (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Chwefror 2023.
- ↑ Turkey hit by two more powerful earthquakes two weeks after disaster , 21 Chwefror 2023. Cyrchwyd ar 22 Chwefror 2023.
- ↑ Llywodraeth Cymru yn darparu £300,000 i gefnogi’r gwaith cymorth yn Nhwrci a Syria , Llywodraeth Cymru, 9 Chwefror 2023. Cyrchwyd ar 10 Chwefror 2023.
- ↑ Daeargryn: Apêl Cymru yn codi £2.5m mewn chwe diwrnod , 17 Chwefror 2023. Cyrchwyd ar 22 Chwefror 2023.
- ↑ [https://nation.cymru/news/turkey-syria-earthquake-wales-raises-1-2m-in-first-day-of-aid-appeal/ Turkey-Syria Earthquake: Wales raise s £1.2m in first day of aid appeal] , Nation.Cymru, 10 Chwefror 2023.
- ↑ Turkey-Syria earthquake: Welsh firefighter says 'worst disaster' he's seen as death toll hits 23,000 (en) , ITV Wales News, 11 Chwefror 2023. Cyrchwyd ar 12 Chwefror 2023.