Syria

gwlad yng Ngorllewin Asia

Gwlad yng ngorllewin Asia, yn y Dwyrain Canol, yw Gweriniaeth Arabaidd Syria neu Syria (Arabeg: الجمهورية العربية السورية‎). Y gwledydd cyfagos yw Libanus i'r gorllewin, Israel i'r de-orllewin, Gwlad Iorddonen i'r de, Irac i'r dwyrain a Thwrci i'r gogledd. Fodd bynnag, mae'r anghydfod am union leoliad y ffin rhwng Syria ac Israel ac am Ucheldiroedd Golan heb ei ddatrys. Yn y gorllewin mae gan y wlad arfordir ar y Môr Canoldir. Y brifddinas yw Damascus, sy'n un o'r dinasoedd hynaf yn y byd.[1]

Syria
Mathgwlad, gwladwriaeth sofran, un o wledydd môr y canoldir Edit this on Wikidata
Lb-Syrien.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Siria.wav, En-us-Syria.ogg, Pl-Syria.ogg, De-Arabische Republik Syrien.ogg Edit this on Wikidata
PrifddinasDamascus Edit this on Wikidata
Poblogaeth18,499,181 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 8 Mawrth 1920 Edit this on Wikidata
AnthemHumat ad-Diyar Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethHussein Arnous Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00, Asia/Damascus Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Dwyrain Canol, De-orllewin Asia Edit this on Wikidata
GwladBaner Syria Syria
Arwynebedd185,180 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaTwrci, Israel, Irac, Gwlad Iorddonen, Libanus Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.21667°N 38.58333°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholPeople's Assembly of Syria Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Syria Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethBashar al-Assad Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Syria Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethHussein Arnous Edit this on Wikidata
Map
ArianSyrian pound Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant2.95 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.577 Edit this on Wikidata

Hanes golygu

 
Theatr Rufeinig yn Bosra

Gellir olrhain hanes Syria i 10,000 o flynyddoedd yn ôl a gellir canfod llawer iawn o arteffactau a naddwyd o garreg o'r adeg honno. Tua 3,000 C.C. sefydlwyd gwareiddiad yr Ebla. Gellir gweld fod y rhan hon o'r Dwyrain Canol wedi bod mewn cysylltiad ag arweinyddion yr Aifft e.e. ceir anrhegion gan Ffaros yr Aifft sy'n dyddio'n ôl i'r cyfnod hwn. Ers yr Henfyd hyd at yr oes fodern, bu lleoliad Syria yn y Lefant yn groesffordd i ymerodraethau ac o bwys strategol i benaduriaid lleol ac archbwerau rhyngwladol ill dau. Teyrnasodd brenhinoedd y Dwyrain Agos yn ystod cyfnodau’r Arameaid, yr Asyriaid a’r Babiloniaid. Daeth o dan reolaeth y Groegiaid yn sgil conwest Alecsander Fawr yn 322 CC, ac yn rhan o’r Ymerodraeth Rufeinig Ddwyreiniol yn 64 CC.

Daeth Islam i Syria yn y 7g, ac o hynny ymlaen roedd y wlad yn diriogaeth i gyfres o ymerodraethau Mwslimaidd: yr Umayyad, yr Abasiaid, y Tuluniaid, yr Ikshidiaid, y Fatimiaid, yr Hamdaniaid, yr Ayyubiaid, y Seljwciaid, y Mamlwciaid, a’r Otomaniaid. Wedi chwalfa’r Ymerodraeth Otomanaidd yn sgil diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth Syria dan ddylanwad y Ffrancod fel rhan o’r Mandad Ffrengig dros Syria a Libanus.

Enillodd y wlad ei hannibyniaeth ar Ffrainc wedi’r Ail Ryfel Byd a sefydlwyd Gweriniaeth Arabaidd Syria ym 1946. Unodd â'r Aifft i ffurfio'r Weriniaeth Arabaidd Unedig rhwng 1958 a 1961.

Llywodraeth y teulu Assad golygu

Daeth Hafez al-Assad yn arlywydd y wlad yn Nhachwedd 1970 a bu mewn grym hyd at ei farwolaeth yn 2000 pan etholwyd ei fab Bashar al-Assad yn arlywydd, ac yntau'n 34 oed. Mae ef, fel oedd ei dad o'i flaen, yn aelod o Blaid y Ba'ath. Er iddo gyhoeddi y byddai'n dod a newidiadau chwyldroadol a democrataidd i'r wlad, ychydig iawn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd.

Bu Syria o dan Gyfraith Argyfwng rhwng 1963 a 2011. Mae'n aelod o'r Cenhedloedd Unedig. Mae hefyd yn aelod o'r Gynghrair Arabaidd, ond diarddelwyd y wlad o'r gynghrair honno yn 2011.[2]

Gwrthryfel a rhyfel cartref golygu

 
Y sefyllfa fel ag yr oedd yn Syria, Medi 2015

Rhwng Chwefror 2011 a Chwefror 2017 bu farw 470,000 o bobl[3] 7.6 miliwn a chafwyd a ffodd dros 5 miliwn o bobl o'r wlad yn ôl UNHCR),[4] ac felly anodd iawn yw amcangyfrif union boblogaeth y wlad.

Ar 26 Chwefror 2011 cafwyd sawl protest yn erbyn y llywodraeth; roedd hyn yn dilyn protestiadau drwy'r Dwyrain Canol a adwaenir fel "y Gwanwyn Arabaidd" a gychwynwyd yn Tiwnisia ar 17 Rhagfyr 2010 - yn ninas Sidi Bouzid yng nghanolbarth Tiwnisia pan losgodd dyn ifanc ei hun hyd farwolaeth gan gychwyn cyfres o brotestiadau gan y werin. Roedd y protestwyr yn Syria yn galw am newidiadau gwleidyddol ac am adnewyddu hawliau dynol; galwyd hefyd am ddod â'r Gyfraith Argyfwng i ben. Cafwyd protest mawr ar 18-19 Mawrth 2011 a honnir bod yr awdurdodau wedi lladd ac anafu protestwyr. Wedi hynny bu rhagor o brotestiadau; yn ôl rhai, roedd byddin Syria wedi saethu unigolion ac aelodau'r protestiadau hyn mewn sawl ardal. Credir hefyd fod ambell ran o'r fyddin wedi troi at y chwyldroadwyr.

Yng ngwanwyn 2011, yn fuan ar ôl i'r protestiadau ddechrau, dechreuodd sawl grŵp arfog ymladd yn erbyn y llywodraeth; bu llywodraeth Syria'n llawdrwm, gan ddefnyddio'r fyddin i geisio trechu'r gwrthryfelwyr arfog.[5][6]. Yn 2011 unodd rhai o'r gwrthryfelwyr dan faner "Byddin Rhyddid Syria" ac fe'u cefnogwyd gan lywodraethau Ewrop a UDA.

Yn ôl sawl ffynhonnell, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, roedd rhwng 14,005 a 19,770 o bobl wedi marw erbyn haf 2012, gyda thua hanner y nifer hwn yn sifiliaid.[7] Yn ôl y CU, erbyn Mehefin 2012 roedd hi bellach yn gyflwr o ryfel cartref yn y wlad, gyda byddin y llywodraeth wedi colli llawer o ardaloedd i Fyddin Rhyddid Syria a grwpiau arfog eraill.[8] Ymunodd sawl grŵp arfog jihadaidd yn y rhyfel gan gynnwys Jabhat al-Nusra ('Ffrynt al-Nusra') sy'n deyrngar i al-Qaeda ac a ystyrir yn fudiad terfysgol gan yr Unol Daleithiau. Daw llawer o ryfelwyr Jabhat al-Nusra o wledydd eraill ar draws y byd Islamaidd a thu hwnt. Eu bwriad yw sefydlu cyfraith sharia yn y wlad fel rhan o'r 'califfaeth' Islamaidd.

Yn Awst 2013 dywedodd John Kerry (UDA) fod Bashar al-Assad wedi defnyddio arfau cemegol yn erbyn sifiliaid[9] a chafwyd sawl cyhuddiad yn y 2000-2010au fod hawliau dynol sylfaenol wedi'u torri gan y Llywodraeth; yn ôl y Cenhedloedd Unedig (ar 9 Tachwedd 2011) lladdwyd dros 3500 gyda 250 ohonynt yn blant nifer o'r rheiny, yn enwedig bechgyn, wedi'u treisio gan filwyr Bashar al-Assad.[10][11]

Erbyn Awst 2014 credir bod 191,369 wedi marw yn y gwrthryfel.

Cefnogaeth Rwsia golygu

Bu gan Rwsia gysylltiad agos gyda Syria ers y 1960au ac yn Haf 2015 symudwyd o leiaf 2,000 o bersonnel i'r wlad a llawer o arfau, llongau ac awyrennau. Ar ddiwrnod olaf Medi 2015 gollyngodd awyrennau Rwsia fomiau ar ISIS. Honodd UDA i'r bomiau gael eu gollwng ar sifiliaid a gwrthrefelwyr eraill, rhai ohonynt yn grwpiau a gefnogwyd gan Brydain.[12]

Ffyrnigwyd UDA a'u cynghreiriaid gan y ffaith i Rwsia dderbyn gwahoddiad gan Lywodraeth Syria i'w cynorthwyo i amddiffyn y wlad. Aryddodd Rwsia hefyd 1,571 o 'gytundebau' gydag arweinwyr lleol - a oedd yn cytuno i gefnogi Llywodraeth y wlad.[13]

Daearyddiaeth golygu

Yn ogystal â'r brifddinas Damascus y dinasoedd pwysicaf yn Syria yw Homs, Hama ac Aleppo. Y prif afonydd yw Afon Ewffrates, sy'n rhedeg ar draws y wlad yn y gogledd-ddwyrain, ac Afon Orontes yn y canolbarth. Yn y de-ddwyrain ceir Diffeithwch Syria sy'n ymestyn o fryniau Jabal ad Duruz dros y ffin i Wlad Iorddonen a gorllewin Irac. Mae rhan o Fynydd Libanus yn gorwedd yn Syria ac yn nodi'r ffin rhyngddi a Libanus ei hun. Mae gan Syria lain o arfordir ar lan Môr y Canoldir yng ngogledd-orllewin y wlad.

Demograffeg golygu

Mae 74% o'r boblogaeth yn Fwslemiaid, gyda 13% ohonyn nhw'n Shia ac Alawitiaid, 10% ohonyn nhw'n Gristnogion a 3% yn Druze. Ers yr 1960au dominyddiwyd gwleidyddiaeth y wlad gan leiafrif Alawitaidd yn y fyddin. Mae 90% o'r boblogaeth yn Fwslemiaid ac mae hyn yn cynnwys Arabiaid, Cyrdiaid, Adyghe (neu Circasiaid) ac eraill. Mae 10% yn Gristnogion ac mae hyn yn cynnwys Arabiaid, Syriacs ac Armeniaid. Mae lleiafrifoedd ethnic y wlad yn cynnwys y Cwrdiaid, yr Armeniaid, y Twrciaid Syriaidd a'r Circasiaid.[14]

Arabeg yw'r iaith swyddogol ond mae rhai pobl yn medru Ffrangeg yn dda yn ogystal. Mae mwyafrif y dinesyddion yn ddilynwyr Islam, a'r rhan fwyaf yn Sunni ond gyda lleiafrif Shia hefyd. Ceir cymunedau Cristnogol a rhai Iddewon yn ogystal.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Saesneg Neolithic Tell Ramad in the Damascus Basin of Syria. Adalwyd 01-02-2010.
  2. MacFarquhar, Neil (12 Tachwedd 2011). "Arab League Votes to Suspend Syria". The New York Times. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2011.
  3. editor, Ian Black Middle East (10 Chwefror 2016). "Report on Syria conflict finds 11.5% of population killed or injured" – drwy The Guardian.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  4. (UNHCR), United Nations High Commissioner for Refugees. "UNHCR Syria Regional Refugee Response". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-02-19. Cyrchwyd 2018-04-15.
  5. "Syrian army tanks 'moving towards Hama'". BBC News. 5 Mai 2011. Cyrchwyd 20 Ionawr 2012.
  6. "'Dozens killed' in Syrian border town". Al Jazeera. 17 Mai 2011. Cyrchwyd 12 Mehefin 2011.
  7. "Syrian Observatory for Human Rights". Syriahr.com. Cyrchwyd 2012-06-05.
  8. Gwefan Saesneg y BBC; adalwyd 13 Mehefin 2012
  9. "Iran warns west against military intervention in Syria". The Guardian. Cyrchwyd 28 Awst 2013.
  10. Joe Lauria (29 Tachwedd 2011). "More than 250 children among dead, U.N. says". The Wall Street Journal. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2011.
  11. "UN report: Syrian forces commit 'gross violations' of human rights, CNN". 29 Tachwedd 2011.
  12. "Syria crisis: Russia begins air strikes against Assad foes" (yn english). ВВС News. 30 Medi 2015.CS1 maint: unrecognized language (link)
  13. Russia Insider: Military Briefing (Current Situation), posted 9 Mehfin 2017, Time: 0:45
  14. Gwefan Saesneg UDA Adalwyd 16/04/2011