Daearyddiaeth Tristan da Cunha

Grŵp o bump o ynysoedd yw Tristan da Cunha, wedi'u lleoli yn ne Cefnfor yr Iwerydd. Yr ynys fwyaf yw Tristan da Cunha a'r ail-fwyaf yn ôl maint yw lloches adar Ynys Gough. Mae'n ffurfio rhan o diriogaeth ehangach a elwir yn Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha sy'n cynnwys Saint Helena ac Ynys Ascension.

Map o Tristan da Cunha (gan gynnwys Ynys Gough.)

Lleoliad a disgrifiad

golygu
 
Ynys Tristan da Cunha

Mae'r ynysfor yma, 1500 milltir (2500 km) o gyfandiroedd Affrica a De America, yn un o'r llefydd mwyaf anghysbell ar y ddaear, gyda chyfanswm arwynebedd yr ynysoedd yn llai na chwarter Ynys Môn sy'n 714 km² (276 mi sg). Mae'n cynnwys yr ynysoedd canlynol:

  • Tristan da Cunha, y brif ynys a'r mwyaf (37°6′44″S 12°16′56″W / 37.11222°S 12.28222°W / -37.11222; -12.28222 (Tristan da Cunha)) ei harwynebedd: 113 km2 (44 mi sg) [angen ffynhonnell]
    • Ynys anghyraeddadwy: 14 km2 (5.4 mi sg)
    • Ynysoedd yr Eosiaid: 3.4 km2 (1.3 mi sg)
      • Ynys yr Eosl: 3.2 km2 (1.2 mi sg)
      • Yr Ynys Ganol: 0.1 km2 (25 erw)
      • Ynys Stoltenhoff: 0.1 km2 (25 erw)
  • Ynys Gough (Diego Alvarez): 86 km sgwâr (26 mi sg) pwysig o ran bod yr ynys oer-tymherus heb ei haflonyddu fwyaf yng Nghefnfor De'r Iwerydd.

Mae'r brif ynys yn eithaf mynyddig; yr unig ardal gwastad yw lleoliad y brifddinas, Edinburgh of the Seven Seas, ar yr arfordir ogledd-orllewinol. Y pwynt uchaf yw llosgfynydd a elwir yn Queen Mary Peak 2,062 metr (6,7652,062 metr (6,765 tr); mae wedi ei orchuddio gan eira yn y gaeaf ac yn cael ei restru fel copa tra amlwg. Credir fod Tristan da Cunha gael eu ffurfio gan ganol-bwynt hir-oesol o ymchwydd magma a elwir yn fan crasboeth Tristan.

Mae'r hinsawdd yn forol oer-dymherus gyda gwahaniaethau tymheredd bychain rhwng yr haf a'r gaeaf (11.3° - 14.5°) a rhwng dydd a nos. Sandy Point ar yr arfordir dwyreiniol yw, yn ôl pob sôn y man cynhesaf a sychaf ar yr ynys, yn y nghysgod y prifwyntoedd.

Fflora

golygu
 
Ynys Gough, Tristan da Cunha

Mae i hyd yn oed yr ynysoedd llai orchydd o blanhigion, gyda'r rhai mwy'n cael eu dominyddu gan redyn a mwsogl. Mae fflora ar y forynys yn cynnwys llawer o rywogaethau endemig a llawer o sydd â dosbarthiad ambegynol rang yng nghefnforoedd y De'r Iwerydd a De'r Môr Tawel. Felly mae llawer o rywogaethau sy'n bodoli ar Tristan da Cunha hefyd yn bodoli'n bell i ffwrdd yn Seland Newydd. Er enghraifft, fe nodwyd bodolaeth y rhywogaeth  Nertera depressa gyntaf ar Tristan da Cunha,[1] ond ers hynny mae ei bodolaeth wedi'i gofnodi mor bell i ffwrdd â Seland Newydd.[2]

Ffawna

golygu

Mae Tristan da Cunha yn gartref i rywogaethau morol gan gynnwys morlo ffwr isantarctig, y morlo eliffant deheuol ac adar megis pengwiniaid rockhopper y gogledd a phengwiniaid macaroni. Mae'r ynysoedd yn bwysig ar gyfer eu bywyd adar, y rhai a sefydlwyd ar yr ynysoedd ac adar y mar sy'n bridio yno. Mae ugain o rywogaethau yn nythu ar Ynys Gough yn unig. Rhywogaethau pwysig megis albatros Tristan, bronfraith Tristan, bras Tristan, bras Gough, iâr ddŵr Gough, y pedryn Môr Iwerydd, a rhegen Ynys Inacessible. Nid oes ymlusgiaid, amffibiaid, pysgod dŵr croyw, neu mamaliaid tir brodorol.

Anheddau dynol

golygu

Ar wahân i Tristan da Cunha, a setlwyd fel cyrchfan ar gyfer hela morfilod a morloi yn y 18fed ganrif, mae'r ynysoedd heb boblogaeth dynol ag eithrio'r orsaf dywydd ar Ynys Gough sy'n perthyn i Dde Affrica. Mae pysgota yn dal i fod yn weithgaredd  economaidd bwysig yn enwedig cimwch yr afon a'r octopws ond hefyd craig cimychiaid Tristan (Jasus tristani). Roedd Ynys Gough hefyd yn cael ei ddefnyddio fel cyrchfan ar gyfer hela morfilod a morloi ond dim ond erioed dros dro. Mae'r ynysoedd yn derbyn nifer fach o dwristiaid.

Bygythiadau a chadwriaeth

golygu

Mae defaid a gwartheg wedi eu cyflwyno ar Tristan da Cunha ac mae eu pori, ynghyd â gweithgareddau eraill dynol wedi achosi difrod i ecosystemau'r ynys. Mae pysgota nos wedi achosi marwolaethau i lawer o adar y môr fel wrth iddynt dato'n ddamweiniol i fewn i oleuadau'r llongau pysgota.[3]

Gweler hefyd

golygu
  • Rhestr o fynyddoedd a bryniau o Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha
  • Rhestr o drefi yn Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha
  • Edinburgh of the Seven Seas
  • Sandy Point, Tristan da Cunha

Cyfeiriadau

golygu
  1. Linnean Society of London. 1906. The journal of the Linnean Society of London, cyhoeddwyd gan Academic Press ar gyfer Linnean Society of London., cyfr. 37
  2. C. Michael Hogan. 2009. Crown Fern: Blechnum discolor, Globaltwitcher.com, ed. N. Stromberg Error in webarchive template: Check |url= value. Empty.
  3. Ryan, P. G. 1991. The impact of the commercial lobster fishery on seabirds at the Tristan da Cunha Islands, South Atlantic Ocean. Biological Conservation 57:339-350.

Dolenni allanol

golygu
  • "Tristan Da Cunha-Gough Islands shrub and grasslands". Terrestrial Ecoregions. World Wildlife Fund.