Dafydd Morris

pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac emynydd

Emynydd Cymraeg oedd Dafydd Morris (David Morris mewn rhai ffynnonellau) (174417 Medi 1791). Fe'i ganed ym mhlwyf Lledrod, Ceredigion.[1]

Dafydd Morris
Ganwyd1744 Edit this on Wikidata
Lledrod Edit this on Wikidata
Bu farw17 Medi 1791 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata

Porthmon oedd Dafydd Morris yn ei ieuenctid. Ymsefydlodd ym mhlwyf Troed-yr-Aur, Ceredigion yn 1774 ar ôl troedigaeth i Fethodistiaeth a daeth yn bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.[1]

Cyhoeddwyd casgliad o'i emynau yn 1773, sef Cân y Pererinion Cystuddiedig.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).

Gweler hefyd

golygu