Lledrod

pentref a chymuned yng Ngheredigion

Pentref a chymuned yng nghanolbarth Ceredigion yw Lledrod, hanner ffordd rhwng Aberystwyth a Thregaron.

Lledrod
Pantglas Chapel - geograph.org.uk - 51557.jpg
Capel Pantglas, Lledrod
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.3133°N 3.9883°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000392 Edit this on Wikidata
Cod OSSN645703 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Yn 2001 roedd 707 o bobl yn byw yn ardal cymuned Lledrod, 62% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).

Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[1][2]

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Lledrod (pob oed) (735)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Lledrod) (386)
  
54.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Lledrod) (401)
  
54.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Lledrod) (90)
  
31.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Ffair LledrodGolygu

Roedd ffair flynyddol Lledrod yn un o'r bwysicaf yng nghanolbarth Ceredigion. Fe'i cynhelid ar 7 Hydref. Ceir cyfeiriadau ati yn yr hen almanaciau mor gynnar â 1776. Gwerthai ffermwyr yr ardal eu gwartheg yn y ffair, a chawsent eu gyrru oddi yno i Dregaron i'r porthmyn eu gyrru i farchnadoedd Lloegr. Dirwynodd y ffair i ben ar ddechrau'r 20g.[7]

Pobl o LedrodGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]
  7. Evan Jones, Cerdded Hen Ffeiriau (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1972).