Dafydd Nicolas
Bardd Cymraeg oedd Dafydd Nicolas (1705–1774). Fe'i ystyrir yr olaf o'r 'beirdd teulu' - h.y. beirdd yn canu ar aelwyd noddwr neilltuol yn bennaf - yng Nghymru, er nad oedd yn perthyn i linach hynafol Beirdd yr Uchelwyr fel y cyfryw. Am dros 50 mlynedd bu'n fardd teulu Aberpergwm ym Morgannwg (Castell-nedd Port Talbot).[1]
Dafydd Nicolas | |
---|---|
Ganwyd | 1705 Llangynwyd |
Bu farw | 1774 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bywgraffiad
golyguErbyn y 18g roedd Aberpergwm yn gartref i Rees Williams (m. 1812). Mae lle i ystyried mai ef oedd yr olaf yng Nghymru i gyflogi bardd teulu, sef Dafydd Nicolas. Ychydig a wyddys am y bardd er bod sawl traddodiad amdano. Cafodd ei eni ym mhlwyf Ystrad Dyfodwg, yn ôl pob tebyg. Cofnodir iddo gael ei fedyddio yn eglwys y plwyf ar 1 Gorffennaf 1705. Yn ôl traddodiad lleol roedd yn ysgolhaig Clasurol a gyfieithodd ran o waith Homer i'r Gymraeg. Cadwodd ysgol ym mhlwyf Llangynwyd am gyfnod. Yn 1745 daeth i sylw Rees Williams a chafodd ei gyflogi fel bardd teulu a thiwtor preifat yn Aberpergwm lle treuliodd weddill ei oes. Bu farw yn 1774 ac fe'i claddwyd yn Aberpergwm.[2]
Cedwir dwy gerdd gan Ddafydd yn y casgliad Ancient National Airs of Gwent and Morganwg a gyhoeddwyd gan Maria Jane Williams yn 1844.[3] Tadogwyd sawl cerdd arno gan Iolo Morganwg ond gwyddys erbyn hyn mai ffug ydynt ac mai Iolo ei hun oedd yr awdur. Yn ôl Iolo, Dafydd oedd bardd gorau ei gyfnod.[4]
Ceir carreg goffa i'r bardd yn Eglwys Cadog Sant, Aberpergwm. Credir iddi gael i gosod ym mur yr eglwys yn y 19eg ganrif. Mae'r dyddiadau geni a marw (1693 - 1769) yn anghywir.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
- ↑ G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 241-2.
- ↑ G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 243.
- ↑ 4.0 4.1 G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 241.