Griffith John Williams

Athro prifysgol ac ysgolhaig Cymraeg
(Ailgyfeiriad o G. J. Williams)

Hanesydd llenyddiaeth Gymraeg ac ysgolhaig amryddawn oedd Griffith John Williams (19 Gorffennaf 189210 Ionawr 1963),[1] a gyhoeddai gan amlaf wrth yr enw G. J. Williams. Ym marn Syr Thomas Parry, 'ef oedd yr ysgolhaig Cymraeg mwyaf a welodd Cymru erioed' (Y Faner, 29 Chwefror 1980).

Griffith John Williams
Ganwyd19 Gorffennaf 1892 Edit this on Wikidata
Cellan Edit this on Wikidata
Bu farw10 Ionawr 1963 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethacademydd, person dysgedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Cymru Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Elen Roberts Edit this on Wikidata

Roedd yn frodor o Gellan, Ceredigion. Astudiodd am ei radd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar ôl treulio cyfnod yn athro ysgol yn y Porth,Rhondda a Dolgellau, daeth yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd ac yn nes ymlaen olynodd W. J. Gruffydd yn y Gadair Gymraeg.

Cofir G. J. Williams yn bennaf am ei ymchwil i hanes llenyddiaeth Gymraeg ym Morgannwg ac yn enwedig gwaith Iolo Morganwg. Er bod rhai ysgolheigion wedi amau dilysrwydd rhai o'r gweithiau canoloesol honedig sydd i'w cael yn llyfrau Iolo, e.e. "cywyddau'r ychwanegiad" Dafydd ap Gwilym, G. J. Williams oedd y cyntaf i brofi yn derfynol mai ffugiadau llenyddol ydynt. Datgelodd hefyd mai ffugiadau yw trwch y trioedd yn nhraddodiad Trioedd Ynys Prydain a thestunau eraill gan Iolo a gyhoeddwyd yn y Myvyrian Archaiology of Wales. Roedd y gweithiau hyn wedi camarwain haneswyr llenyddiaeth Gymraeg am flynyddoedd lawer a bu astudiaethau G. J. Williams yn gymorth mawr i sefydlu seiliau cadarn i ysgolheictod llenyddol yng Nghymru.

Ymddiddorai G. J. Williams yng ngwaith y Dyneiddwyr Cymreig hefyd. Cyhoeddodd olygiad safonol o lyfr gramadeg Gruffydd Robert sy'n cynnwys traethawd hir ar yr awdur. Nid llai fu ei gyfraniad i'n dealltwriaeth o'r traddodiad barddol chwaith, diolch i'w gyfrol fawr Gramadegau'r Penceirddiaid a nifer o erthyglau dysgedig.

Llyfryddiaeth ddethol

golygu

Ar fywyd a gwaith G. J. Williams, gw. yr erthyglau gan Aneirin Lewis yn Dysg a Dawn: Cyfrol Goffa Aneirin Lewis, gol. W. Alun Mathias ac E. Wyn James (Cylch Llyfryddol Caerdydd, 1992), Ceri W. Lewis, Griffith John Williams (1992-1963): Y Dyn a'i Waith (Darlith Lenyddol Eisteddfod Genedlaethol Nedd a'r Cyffiniau, 1994), a ‘Golygyddol: Cofio Griffith John Williams (1892–1963)’, Llên Cymru, 36 (2013), 1–4.

Gellir gwrando ar ddarlith gan yr Athro E. Wyn James, ‘“Gweld gwlad fawr yn ymagor”: breuddwyd cyffrous G. J. Williams a Saunders Lewis’, yma: http://www.hanesplaidcymru.org/english-cofio-yr-athro-griffith-john-williams-ai-wraig-elizabeth/.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Aneirin Lewis. Y Bywgraffiadur - WILLIAMS , GRIFFITH JOHN. Adalwyd ar 3 Chwefror 2016.

Darllen pellach

golygu