Llangynwyd

pentref yng Nghymru

Pentref a phlwyf yng nghymuned Llangynwyd Ganol, bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru, yw Llangynwyd (a Llangynwyd Isaf). Saif tua 2 filltir i'r de o dref Maesteg. Bu'n rhan o gwmwd canoloesol Tir Iarll.

Llangynwyd
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5869°N 3.6379°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS866888 Edit this on Wikidata
Map

Yn y pentref ceir eglwys plwyf Llangynwyd, a sefydlwyd gan Sant Cynwyd, yn ôl traddodiad. Gerllaw ceir adfeilion Castell Llangynwyd.

Cedwir traddodiad y Fari Lwyd o hyd yn Llangynwyd, ar 31 Rhagfyr. Un o'r ardal yma oedd y bardd Rhisiart Iorwerth a elwir hefyd yn Rhisiart Fynglwyd.

Eglwys Cynwyd Sant, Llangynwyd

Pobl o Langynwyd golygu

Roedd hen bentref Llangynwyd, "Llan Uchaf", yn gartref i Ann Maddocks, "Y Ferch o Gefn Ydfa", a'r bardd Wil Hopcyn, y dywedir iddo gyfansoddi'r gân Bugeilio'r Gwenith Gwyn.

Ganed yr hynafiaethydd Thomas Christopher Evans (1846 - 1918) yn y plwyf.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yn ôl cyfrifiad 2001, mae gan y pentref boblogaeth o 2,843. Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangynwyd (pob oed) (440)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangynwyd) (44)
  
10.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangynwyd) (370)
  
84.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llangynwyd) (78)
  
39%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]