Dafydd Rhys ap Thomas
Ysgolhaig beiblaidd o Gymru oedd Dafydd Rhys ap Thomas (2 Mai 1912 - 19 Mai 2011).
Dafydd Rhys ap Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mai 1912 Porthaethwy |
Bu farw | 19 Mai 2011 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgolor beiblaidd |
Cefndir
golyguCafodd ei eni ym Mhorthaethwy yn 1912, yn fab i'r Parchedig W. Keinion Thomas ai wraig Jeannete (née Thomas).
Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Biwmares a Phrifysgol Bangor, lle y graddiodd mewn Hebraeg ac Ieithoedd Semitaidd ym 1934. Derbyniodd gradd M.A. mewn Diwinyddiaeth o Goleg Mansfield, Rhydychen, ac enillodd B.D. ym Mhrifysgol Llundain. Ym 1937 aeth i Brifysgol Berlin gan fwriadu astudio am ddoethuriaeth, ond bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'r cwrs o herwydd twf Natsïaeth cyn cychwyn Yr Ail Ryfel Byd.
Teulu
golyguYm 1940 priododd Menna, merch y Parchedig George Davies a Mrs Marianne Davies, Blaenau Ffestiniog, bu iddynt dau o blant.
Gwaith
golyguYm 1938 dechreuodd gweithio fel athro'r Hebraeg ym Mhrifysgol Bangor, gan aros yno hyd ei ymddeoliad ym 1977.
Cofir ap Thomas yn bennaf fel ysgolhaig Yr Hen Destament. Ei gyfraniad pennaf oedd cyfieithu cyfrol o draethodau gan Martin Noth o'r Almaeneg i'r Saesneg; The Laws and the Pentateuch and other studies (1966). Cyhoeddodd hefyd Primer of Old Testament text criticism (1947) a Gramadeg Hebraeg y Beibl (1976) ar y cyd a Gwilym H. Jones. Cyfranodd cyfieithiadau o'r Hen Destament ar gyfer Y Beibl Cymraeg Newydd (1976).
Marwolaeth
golyguBu farw yn 2011 yn 99 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym Mlaenau Ffestiniog.
Cyhoeddiadau
golygu- A primer of Old Testament text criticism (1947)
- The Psalms in Israel's worship cyfieithiad o waith Norwyeg Sigmund Mowinckel (1962)
- The laws in the Pentateuch and other studies cyfieithiad o waith Martin Noth (1966)
- The society for Old Testament study : a short history, 1917-1967 (1968)
- Archeoleg y Beibl cyfraniad i Efrydiau Beiblaidd Bangor 1 : cyfrol deyrnged i'r Athro Bleddyn Jones Roberts, MA, DD (1973)
- Gramadeg Hebraeg y Beibl gyda Gwilym H Jones (1976)
- Offrwm ac Aberth cyfraniad i Efrydiau Beiblaidd Bangor 3 : cyfrol deyrnged i Isaac Thomas (1978)
- Ffynonellau Hanes yr Eglwys gyda R. Tudur Jones (1979)
Roedd y gyfrol Efrydiau Beiblaidd Bangor 2, yn deyrnged i Dafydd Rhys ap Thomas ar adeg ei ymddeoliad ef ym 1977.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ World Cat - Ap-Thomas, D. R. (Dafydd Rhys) adalwyd 23 mawrth 2019