Cerflunydd o Gymru oedd Dafydd Richards (18291897[1]), a wnaeth enw mawr iddo'i hun fel artist yn yr Unol Daleithiau yn ail hanner y 19eg ganrif lle roedd yn cael ei adnabod fel David Richards.

Dafydd Richards
Ganwyd1829 Edit this on Wikidata
Bu farw1897 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerflunydd Edit this on Wikidata
Cerflun Dafydd Richards o'r pennaeth brodorol Black Hawk yn Rock Island, Illinois

Ganed Dafydd Richards ym Meiriafael Uchaf ger Llyn Myngul (neu Lyn Tal-y-Llyn), yn agos i Abergynolwyn, Meirionnydd yn y flwyddyn 1829. Bu farw ei dad pan oedd yn ifanc iawn ac aeth i fyw gyda theulu ei ewythr yn Abergynolwyn. Bu'n gweithio yn ffermydd y fro a dysgodd gan ei ewythr y grefft draddodiadol o gerfio llwyau pren a chelfi eraill.[2]

Yn 19 oed, fel nifer o'i gydwladwyr yn y cyfnod hwnnw, ymfudodd o Gymru i'r Unol Daleithiau i geisio bywyd gwell. Ar ôl cyfnod fel gwas fferm cafodd waith yn iard gerrig Cymro yn Remsen, Efrog Newydd a dechreuodd wneud delwau mewn clai a marmor a enillodd iddo wobrau mewn arddangosfeydd lleol. Symudodd i fyw yn Ninas Efrog Newydd lle agorodd stiwdio gyda chefnogaeth y dyngarwr Peter Cooper a'r miliwnydd Americanaidd-Gymreig Owen Jones.[angen ffynhonnell]

Cafodd yrfa hir a llwyddiannus. Cerfiodd bortreadau pen-ac-ysgwydd a medalau o nifer o arweinwyr amlycaf y dydd, yn cynnwys yr Arlywydd Grant, Horatio Seymour (gwleidydd amlwg yn Utica) a'r Cadfridog Harding.[1] Creodd bortreadau o nifer o bobl enwog eraill hefyd a chawsant eu cynhyrchu mewn plaster wedyn a'u gwerthu ar raddfa eang nes y daeth Dafydd Richards yn enw adnabyddus iawn yn y Taleithiau. Ond erbyn heddiw fe'i cofir yn bennaf fel y gŵr a bortreadai nifer o Indiaid brodorol. Maent yn cynnwys y cerflun anferth 18 tunnell a wnaeth yn 1892 o'r pennaeth Black Hawk (1767–1838), ymladdwr dros hawliau'r Indiaid yn erbyn y dyn gwyn, a ddaeth yn ddelwedd Americanaidd eiconaidd.[3] Mae i'w gweld heddiw yn y Watchtower Lodge, Illinois.

Cofnodir iddo ddychwelyd ar ymweliad i'w fro enedigol o leiaf un waith, yn 1868.[3] Roedd yn arlunydd medrus hefyd ond am ei gerfluniau y'i cofir. Un o uchafbwyntiau mawr ei yrfa oedd yr arddangosfa o'i waith yn Ffair y Byd Chicago, 1893. Bu farw yn Efrog Newydd yn 1897.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 AskArt.com
  2. Elwyn Roberts, Wrth Odre Cadair Idris (Cyhoeddiadau Mei, 1989), tud. 90.
  3. 3.0 3.1 Wrth Odre Cadair Idris, tud. 91.

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: