Remsen, Efrog Newydd
Tref fechan yn nhalaith Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau (UDA) a "phentref" o'r un enw o fewn y dref honno yw Remsen. Poblogaeth y dref: 1,958 (2000). Poblogaeth y pentref: 531 (2000). Mae'n gorwedd yn Oneida County ger Utica, Efrog Newydd, bron yng nghanol y dalaith.
Math | pentref, pentref yn nhalaith Efrog Newydd |
---|---|
Poblogaeth | 431 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Remsen |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 0.964297 km², 0.964298 km² |
Uwch y môr | 361 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 43.3275°N 75.1867°W |
Cod post | 13438 |
Sefydlwyd pentref neu gymuned Remsen gan fewnfudwyr o Gymru tua 1796. Cafodd ei ymgorffori fel cymuned yn 1845 ac erbyn heddiw mae'n gymuned ("pentref" Americanaidd) o fewn y dref a dyfodd o'i gwmpas. Mae gan bentref Remsen eglwys hanesyddol, Capel Cerrig, sy'n eiddo i Gymdeithas Hanes Remsen-Steuben. Mae Remsen mor falch o'i wreiddiau Cymreig fel ei fod yn ddefnyddio'r Ddraig Goch fel ei faner swyddogol.
Pan ymfudodd y cerflunydd Dafydd Richards o Feirionnydd i'r Unol Daleithiau treuliodd ei ddwy flynedd gyntaf yn y wlad honno yn gweithio fel gwas fferm ac wedyn yn iard gerrig Cymro yn Remsen. Dyna lle dechreuodd wneud delwau mewn clai a marmor a enillodd iddo wobrau mewn arddangosfeydd lleol. Symudodd i fyw yn Ninas Efrog Newydd lle agorodd stiwdio gyda chefnogaeth y dyngarwr Peter Cooper a'r miliwnydd Americanaidd-Gymreig Owen Jones a daeth yn un o gerflunwyr mawr y cyfnod.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan Pentref Remsen
- (Saesneg) Gwefan tref Remsen