Dafydd y Garreg Wen

Cân werin yn Gymraeg, gan David Owen (telynor) yw "Dafydd y Garreg Wen" Pan oedd ar ei wely angau, yn ôl y traddodiad, galwodd Dafydd am ei delyn a chyfansoddodd yr alaw enwog a enwir yn Dafydd y Garreg Wen ar ei ôl. Bu farw yn 29 mlwydd oed.

Gan mlynedd yn ddiweddarach yn 1873, ysgrifennodd John Ceiriog Hughes y geiriau a gysylltir yn arferol â'r gân.

'Cariwch', medd Dafydd, 'fy nhelyn i mi,
Ceisiaf cyn marw roi tôn arni hi.
Codwch fy nwylaw i gyraedd y tant;
Duw a'ch bendithio fy ngweddw a'm plant!
Neithiwr mi glywais lais angel fel hyn:
"Dafydd, tyrd adref, a chwarae trwy'r glyn!"
Delyn fy mebyd, ffarwel i dy dant!
Duw a'ch bendithio fy ngweddw a'm plant!'

Yr alaw Dafydd y Garreg Wen

golygu

Dafydd Owen a ysgrifennodd yr alaw, a rhoddwyd geiriau arni gan Ceiriog.