David Owen (telynor)
cyfansoddwr a aned yn 1712
Roedd David Owen (1710–1739 neu efallai 1720–1749)[1] neu Dafydd y Garreg Wen, y telynor enwog, yn byw ar fferm Y Garreg Wen ym mhlwyf Ynyscynhaearn ger Morfa Bychan, Porthmadog yn y 18g.
David Owen | |
---|---|
Ganwyd | 27 Ionawr 1712 Ynyscynhaearn |
Bu farw | Awst 1741 |
Man preswyl | Garreg-wen |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfansoddwr |
Cyfansoddodd Dafydd yr alawon "Dafydd y Garreg Wen", "Codiad yr Ehedydd" a "Rosalin Castle". Defnyddir "Codiad yr Ehedydd" bellach yn ymdeithgan gyflym gan y Gwarchodlu Cymreig. Bu farw'n 29 oed, a gofalodd Elis Owen, Cefnymeysydd, fod carreg fedd teilwng yn cael ei ei godi, a gweithiodd yr englyn canlynol ar y garreg:
- 'Swynai'r fron, gwnai'r llon y llu - a'i ganiad
- Oedd ogoniant Cymru,
- Dyma lle cadd ei gladdu
- Heb ail o'i fath, Jubal fu.'
Bedd
golygu-
Beddfaen Dafydd y Garreg Wen ym mynwent yr eglwys
-
Bedd Dafydd, gyda'r eglwys yn y cefn
-
Y delyn wedi'i cherfio ar y garreg
-
Bedd yng nglaw yr hydref.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwyddoniadur Cymru, yr Academi Gymreig; Gwasg Prifsygol Cymru; argraffwyd 2008