Mae Dagestan (/ ˌdæɡɪˈstæn, -ˈstɑːn /; Rwsieg: Дагеста́н), yn swyddogol Y Weriniaeth Dagestan (Rwseg: Респу́блика Дагеста́н), yn weriniaeth yn Rwsia sydd wedi'i lleoli ar Fôr Caspia, yng Ngogledd y Cawcasws yn Nwyrain Ewrop. Ar flaen deheuol Rwsia, mae'r weriniaeth yn rhannu ffiniau tir â gwledydd Aserbaijan a Georgia i'w de a'i de-orllewin; ac yn ffinio a'r gweriniaethau Rwsiaidd Tsietsnia a Kalmykia i'r gorllewin a'r gogledd, wrth ffinio â Crai Stavropol i'r gogledd-orllewin. Makhachkala yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf; mae yna ddinasoedd eraill yno fel Derbent, Kizlyar, Izberbash, Kaspiysk a Buynaksk.

Y Weriniaeth Dagestan
Mathgweriniaethau Rwsia Edit this on Wikidata
PrifddinasMakhachkala Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,133,303 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1991 Edit this on Wikidata
AnthemAnthem Swyddogol Dagestan
Pennaeth llywodraethSergey Melikov Edit this on Wikidata
Cylchfa amserAmser Moscfa, UTC+03:00, Ewrop/Moscfa Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Rwseg, Aghul, Avar, Aserbaijaneg, Tsietsnieg, Dargwa, Kumyk, Lak, Lezgian, Nogai, Rwtwleg, Tabasaran, Tsakhur Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDosbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws, Dosbarth Ffederal Deheuol Edit this on Wikidata
SirDagestan
GwladRwsia Edit this on Wikidata
Arwynebedd50,300 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGweriniaeth Kalmykia, Crai Stavropol, Tsietsnia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.9839°N 47.505°E Edit this on Wikidata
RU-DA Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCynulliad Pobl Gweriniaeth Dagestan Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Head of the Respublic of Dagestan Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethSergey Melikov Edit this on Wikidata
Map

Mae'r weriniaeth yn cwmpasu ardal o 50,300 cilomedr sgwâr (19,400 milltir sgwâr), gyda phoblogaeth o dros 3 miliwn o drigolion. Mae'n un o'r rhai mwyaf amrywiol yn ieithyddol ac yn ethnig, yn ogystal â gweriniaeth fwyaf heterogenaidd Rwsia. Mae trigolion y weriniaeth yn siarad ieithoedd Gogledd y Cawcasws a ieithoedd Tyrcaidd yn bennaf, ond Rwsieg yw brif iaith yn y weriniaeth.