Dosbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws

Mae Dosbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws (Rwseg: Се́веро-Кавка́зский федера́льный о́круг, Severo-Kavkazsky federalny okrug) yn un o wyth dosbarth ffederal Rwsia. Fe'i lleolir yn ne-orllewin eithaf Rwsia, yn ardal ddaearyddol Gogledd y Cawcasws. Crëwyd Dosbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws ar 19 Ionawr 2010 pan gafodd ei dorri allan o'r Dosbarth Ffederal Deheuol.

Dosbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws
Enghraifft o'r canlynoldosbarth ffederal Edit this on Wikidata
CrëwrDmitry Medvedev Edit this on Wikidata
Rhan oDe Rwsia, Rwsia Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu19 Ionawr 2010 Edit this on Wikidata
Map
Enw brodorolСеверо-Кавказский федеральный округ Edit this on Wikidata
GwladwriaethRwsia Edit this on Wikidata
RhanbarthRwsia Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://skfo.gov.ru/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd cyfanswm poblogaeth y rhanbarthau a gweriniaethau yn y dosbarth yn 9,428,826 yn ôl Cyfrifiad Rwsia 2010.

Canolfan weinyddol y dosbarth yw dinas Pyatigorsk. Y Cennad arlywyddol cyfredol (2013) yw Alexander Khloponin.

Lleoliad y dosbarth yn Rwsia

Rhanbarthau a gweriniaethau golygu

Mae'r dosbarth yn cynnwys chwe gweriniaeth ymlywodraethol ac un crai, fel a ganlyn:

  1. Gweriniaeth Dagestan
  2. Gweriniaeth Ingushetia
  3. Gweriniaeth Kabardino-Balkar
  4. Gweriniaeth Karachay-Cherkess
  5. Gweriniaeth Gogledd Ossetia-Alania
  6. Crai Stavropol
  7. Gweriniaeth Tsietsnia
 
Yr israniadau o'r dosbarth (gweler y rhifau yn y rhestr uchod)

Gweler hefyd golygu

Dolen allanol golygu