Dagmar Lange

Awdures o Sweden oedd Dagmar Lange (31 Mawrth 1914 - 9 Hydref 1991) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur nofelau trosedd a ditectif, y cyntaf o'i bath i sgwennu mewn Swedeg. Ei llysenw-awdur yw Maria Lang.[1]

Dagmar Lange
Dagmar Lange January 1956.jpg
FfugenwMaria Lang Edit this on Wikidata
Ganwyd31 Mawrth 1914 Edit this on Wikidata
Västerås Edit this on Wikidata
Bu farw9 Hydref 1991, 8 Hydref 1991 Edit this on Wikidata
Nora Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Sweden Sweden
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Stockholm Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, sgriptiwr, athro ysgol Edit this on Wikidata
Arddullnofel drosedd Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Västerås yng nghanol Sweden a bu farw yn Nora, Sir Örebro, Sweden.[2][3][4]

Magwraeth a cholegGolygu

Tad Lange oedd y newyddiadurwr Clas Lange a'i mom oedd Elsa Kejser. Symudodd y teulu i Lindesberg yn 1915, pan benodwyd ei thad yn olygydd a chyhoeddwr y papur newydd Bergslagernas Tidning. Yn 1917 bu farw ei thad o lid yr ymennydd, pan oedd Dagmar yn ddwy flwydd oed. Yn 1919 priododd ei mam Carl Ivar Olson, ac ymsefydlodd yn Nora.[5]

Cofrestrodd Lange fel myfyriwr ieithoedd Sgandinafaidd yn Uppsala ym 1933, ac o 1934 yn Stockholms högskola. Y pwnc ar gyfer ei thesis PhD ym 1946 oedd Pontus Wikner. Rhwng 1946 a 1968, penodwyd hi i ysgol breifat Ahlströmska skolan, yn Stockholm, yn gyntaf fel athrawes ac yna fel prifathro.[6]

NofelyddGolygu

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Mördaren ljuger inte ensam, ym 1949 ac achosodd gryn ddadlau oherwydd bod dau o'r prif gymeriadau yn byw mewn perthynas gyfunrywiol. Cafodd y llyfr adolygiad cadarnhaol gan Barbro Alving in Dagens Nyheter.[7]

Ysgrifennodd Lange dros 40 o nofelau ditectif, yn ogystal â ffuglen trosedd i oedolion ifanc. Mae'r rhan fwyaf o'i llyfrau wedi'u lleoli yn nhref ffuglennol 'Skoga', sy'n seiliedig ar dref enedigol Lange sef Nora. Roedd yn un o 13 aelod gwreiddiol Academi Awduron Troseddau Sweden pan gafodd ei sefydlu ym 1971.

LlyfryddiaethGolygu

  • Mördaren ljuger inte ensam (1949), film 2013
  • Farligt att förtära (1950)
  • Inte flera mord (1951), film 2013
  • En skugga blott (1952)
  • Rosor, kyssar och döden (1953) Film 2013
  • Tragedi på en lantkyrkogård (1954), film 1961 2013
  • Se döden på dig väntar (1955)
  • Mörkögda augustinatt (1956)
  • Kung Liljekonvalje av dungen (1957), film 1961 & 2013
  • Farliga drömmar (1958) Film 2013
  • Ofärd i huset bor (1959)
  • Vår sång blir stum (1960)
  • Att vara kvinna (1961)
  • En främmande man (1962)
  • Tre små gummor (1963)
  • Ögonen (1964),
  • Siden sammet (1964)
  • De röda kattorna (1965)
  • Svart sommar (1966)
  • Vitklädd med ljus i hår (1967)
  • Ingen returbiljett (1968)
  • Intrigernas hus (1969)
  • Staden sover (1970)
  • Mördarens bok (1971)
  • Vem väntar på värdshuset? (1972)
  • Vi var tretton i klassen (1973)
  • Det är ugglor i mossen (1974)
  • Dubbelsäng i Danmark (1975)
  • Körsbär i november (1976)
  • Arvet efter Alberta (1977)
  • Camilla vid skiljevägen (1978)
  • Svar till Ensam Eva (1979)
  • Inga pengar till Vendela (1980)
  • Gullregn i oktober (1981)
  • Docka vit, Docka röd (1982)
  • Fyra fönster mot gården (1983)
  • Använd aldrig arsenik (1984)
  • Klappa inte katten (1985)
  • Dödligt drama på Dramaten (1986)
  • Ånglok 16 på fel spår (1987)
  • Tvillingen i spegeln (1988)
  • Flyttbil försvunnen (1989)
  • Se Skoga och sedan... (1990)


AelodaethGolygu

Bu'n aelod o Academi Awduron Trosedd Sweden am rai blynyddoedd.

AnrhydeddauGolygu


CyfeiriadauGolygu

  1. Dagmar Lange, Nationalencyklopedin, retrieved 3 Ionawr 2011 Nodyn:Sv
  2. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11910939k; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad marw: (yn en) Internet Movie Database, dynodwr IMDb nm0485838, Wikidata Q37312, https://www.imdb.com/, adalwyd 28 Tachwedd 2019
  4. Man claddu: https://gravar.se/forsamling/nora-bergslagsforsamling/nora-norra-kyrkogard/20/dagmar-maria-lange-3320c; dyddiad cyrchiad: 10 Ionawr 2023.
  5. Lange, Dagmar (1985). Vem är du? (yn Swedeg). tt. 11–28. ISBN 91-1-852252-1.
  6. Lange (1985), pp. 85, 196
  7. Kärrholm, Sara (2004). "Pusseldeckaren och folkhemmets bortträngda mörker". In Salomon, Kim; Larsson, Lisbeth; Arvidsson, Håkan (gol.). Hotad idyll: berättelser om svenskt folkhem och kallt krig (yn Swedish). Lund: Nordic Academic Press. tt. 81–109. ISBN 91-89116-76-3.CS1 maint: unrecognized language (link)