Dahlia "Esgob Llandaf"
Planhigyn lluosflwydd gardd sy'n gyltifar o'r dahlia yw Dahlia "Esgob Llandaf" (Saesneg: Bishop of Llandaff). Mae'r planhigyn tua 1m o daldra ac yn blodeuo o fis Mehefin tan fis Medi. Mae ei flodau ysgarlad yn amlwg mewn cyferbyniad eglur â'i ddail porffor tywyll.[1]
Enghraifft o'r canlynol | Dahlia cultivar |
---|---|
Crëwr | Fred Treseder |
Safle tacson | cyltifar |
Rhiant dacson | Dahlia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cafodd y planhigyn ei fridio gan Fred Treseder, meithrinwr o Gaerdydd. Cafodd ei enwi gan Joshua Pritchard Hughes (1847–1938), Esgob Llandaf, ym 1924 ac enillodd Wobr Teilyngdod gan Cymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) ym 1928.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Dahlia Bishop of Llandaff", Gwefan RHS; adalwyd 21 Mehefin 2024