Joshua Pritchard Hughes
offeiriad (1847-1938)
Clerigwr o Gymro oedd Joshua Pritchard Hughes (13 Chwefror 1847 – 8 Ebrill 1938) a ddaeth yn Esgob Llandaf o 1905 hyd 1931. Fe'i ganwyd yn ficerdy Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, i deulu eglwysig, yn fab i Joshua Hughes (Esgob Llanelwy 1870-1889). Ei frawd hŷn oedd y daearegwr Thomas McKenny Hughes (1832–1917). Addysgwyd ef yn Ysgol Amwythig a Choleg Balliol, Rhydychen. Ordeiniwyd ef yn 1871. Bu'n gurad yng Nghastell-nedd o 1872 hyd 1877, yn ficer Castell Newydd, Pen-y-bont ar Ogwr o 1878 hyd 1884 ac yna Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, o 1884 hyd 1905. Cysegrwyd ef yn esgob Llandaf ar 1 Mehefin 1905. Ymddeolodd ar 24 Chwefror 1931 ar ôl bod yn esgob am 26 mlynedd.[1]
Joshua Pritchard Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 13 Chwefror 1847 Llanymddyfri |
Bu farw | 8 Ebrill 1938 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | offeiriad |
Tad | Joshua Hughes |
Enwyd y dahlia "Esgob Llandaf" er anrhydedd iddo.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Joshua Pritchard Hughes (1847–1938), esgob Llandaf, Y Bywgraffiadur Cymreig