Dai Llewellyn
Cymdeithaswr o Gymru oedd Syr David St Vincent "Dai" Llewellyn, 4ydd Barwnig (2 Ebrill 1946 – 13 Ionawr 2009). Fe'i ganwyd yn Aberdâr yn fab i Syr Harry Llewellyn, 3ydd Barwnig a enillodd fedal aur am farchogaeth yng Ngemau Olympaidd 1952, ac yn frawd hŷn i Roddy Llewellyn, 5ydd Barwnig, a gafodd berthynas gyda'r Dywysoges Margaret.
Dai Llewellyn | |
---|---|
Ganwyd | 2 Ebrill 1946 Aberdâr |
Bu farw | 13 Ionawr 2009 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, cymdeithaswr, travel agent, newyddiadurwr, model |
Plaid Wleidyddol | Plaid Annibyniaeth y DU |
Tad | Harry Llewellyn |
Mam | Christine Saumarez |
Priod | Vanessa Hubbard |
Plant | Olivia Llewellyn, Arabella Llewellyn |
Gadawodd Llewellyn Cymru yn 2003 gan ddweud na fyddai byth yn dychwelyd. Dywedodd bod personau wedi dwyn o dai oedd yn eiddo iddo yn Llanhiledd a honnodd fod rhywun wedi difrodi'r chwe thŷ oedd yn hen gartrefi glowyr, yn ogystal â rhoi'r bai am ei ffarwel ar "genedlaetholdeb cul" a "thactegau bwlian" oedd yn gorfodi disgyblion i ddysgu'r Gymraeg.
Safodd yn etholiadau'r Cynulliad yn 2007 fel ymgeisydd plaid UKIP.
Bu farw Llewellyn yn 62 mlwydd oed ar 13 Ionawr 2009 mewn ysbyty yng Nghaint o ganser. [1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ BBC Newyddion – Syr Dai Llewellyn yn marw , BBC Newyddion, 14 Ionawr 2009.