Dál Riata

(Ailgyfeiriad o Dalriada)

Teyrnas Gaeleg ei hiaith ar arfodir gorllewinol yr Alban oedd Dál Riata, hefyd Dalriada neu Dalriata. Roedd ei thiriogaeth yn yr ardaloedd sydd nawr yn Argyll a Bute, a Lochaber yn yr Alban, a Swydd Antrim yng ngogledd Iwerddon.

Dál Riata
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 498 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Cyfesurynnau56.086135°N 5.478313°W Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethCináed mac Ailpín, Fergus Mór Edit this on Wikidata
Map
Dál Riata tua 580–600. Tiriogaethau'r Pictiaid mewn melyn.

Y farn draddodiadol oedd fod Dál Riata wedi ei sefyldu gan ymfudwyr o Iwerddon, ond mae cryn amheuaeth am hyn bellach, yn enwedig o ystyried y cofnod archaeolegol. Cyfeirir ar drigolion Dál Riata yn aml fel y Scotti yn Lladin.

Cyrhaeddodd y deyrnas ei huchafbwynt dan Áedán mac Gabráin, ei brenin rhwng 574 a 608, ond gorchfygwyd ef ym Mrwydr Degsastan yn 603 gan Æthelfrith, brenin Northumbria. Gorchfygwyd Dyfnwal Frych (Domnall Brecc), a ddaeth yn frenin tua 629, mewn brwydrau yn Iwerddon, cyn ei orchfygu a'i ladd gan fyddin teyrnas Frythonig Ystrad Clud yn 642. Daeth y deyrnas dan reolaeth Northumbria, yna dan reolaeth y Pictiaid.

Cred rhai ysgolheigion fod Dál Riata wedi adennill ei nerth dan Áed Find (736-778), ond mae eraill yn amau hyn. Yn draddodiadol unwyd Dál Riata a theyrnas y Pictiaid gan Cináed mac Ailpín (Kenneth mac Alpin, 800-858).