Damages
Rhaglen deledu drama o'r Unol Daleithiau ydy Damages ("Iawndal") a grëwyd gan Daniel Zelman a brodyr Glenn a Todd A. Kessler (elwir gyda'i gilydd fel KZK). Term cyfreithiol yw'r gair Saesneg "Damages" sy'n golygu "iawndal" ond hefyd "niwed" felly mae'n chwarae ar eiriau. Darlledir yn yr Unol Daleithiau ar The 101 Network (yn flaenorol ar FX), dechreuodd ym Mehefin 24, 2007, a darlledir yn y Deyrnas Unedig ar y BBC, dechreuodd yn Ionawr 2008.
Damages | |
---|---|
Genre | Drama cyfreithiol Drama gyffrous seicolegol |
Crëwyd gan | Todd A. Kessler Glenn Kessler Daniel Zelman |
Serennu | Glenn Close Rose Byrne Tate Donovan Ted Danson Željko Ivanek Noah Bean Anastasia Griffith Marcia Gay Harden Mario Van Peebles Timothy Olyphant William Hurt Campbell Scott Martin Short Lily Tomlin Len Cariou Ben Shenkman |
Thema'r dechrau | "When I Am Through With You" gan The V.L.A. |
Gwlad/gwladwriaeth | Unol Daleithiau |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 3 |
Nifer penodau | 39 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 43 mun. 65 mun. (episod cyntaf/diwethaf y gyfres) |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | FX (2007-2010) DirecTV The 101 Network (2011-presennol) |
Darllediad gwreiddiol | Mehefin 24, 2007 – presennol |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol |
Mae'r rhaglen yn dilyn y cyfreithiwr galluog a didostur Patty Hewes (Glenn Close), ei phrotégé Ellen Parsons (Rose Byrne) a'r cwmni cyfreithiol Hewes & Associates, sydd wedi ei leoli yn Efrog Newydd. Mae pob cyfres yn pwysleisio ar achos mawr gyda Hewes a'i chwmni tra datblygu ac archwilio'r berthynas rhwng Ellen a Patty. Mae'r rhaglen yn dangos yr achos o'r safbwynt y cwmni a'r targed trwy bob cyfres. Mae'r rhaglen wedi atynnu sêr i chwarae rolau yn erbyn Hewes yn cynnwys Ted Danson, William Hurt, Marcia Gay Harden, Martin Short, Lily Tomlin, ac, yn y gyfres bedwaredd i ddod, John Goodman. Enillodd Close a Željko Ivanek, o'r gyfes gyntaf, Emmys ar gyfer eu perfformiadau. Cafodd actorion eraill eu henwi hefyd.
Mae Damages wedi cael canmoliaeth feirniadol a gwobrau teledu niferus, yn cynnwys Golden Globes ac Emmys. Ar 19 Gorffennaf 2010, comisiynnodd DirecTV dwy gyfres mwy o Damages yn cynnwys 10 episod y gyfres a bydd y gyfres bedwaredd yn dechrau ar 11 Gorffennaf 2011. Mae'r rhaglen yn enwog am ei dirdroeon plot, naratif aflinol, teilyngdod technegol a gallu'r actorion.
Cymeriadau
golyguActor | Enw | Cyfres(i) |
---|---|---|
Glenn Close | Patty Hewes | 1, 2, 3 |
Rose Byrne | Ellen Parsons | 1, 2, 3 |
Tate Donovan | Tom Shayes | 1, 2, 3 |
Ted Danson | Arthur Frobisher | 1, 2, 3 |
Željko Ivanek | Ray Fiske | 1, 2, 3 |
Noah Bean | David Connor | 1, 2, 3 |
Anastasia Griffith | Katie Connor | 1, 2 |
Timothy Olyphant | Wes Krulik | 2, 3 |
William Hurt | Daniel Purcell | 2 |
Marcia Gay Harden | Claire Maddox | 2 |
Campbell Scott | Joe Tobin | 3 |
Martin Short | Leonard Winstone | 3 |
Rhyddhadau cyfryngau yn y cartref
golyguCyfres | Rhanbarth | Dyddiad |
---|---|---|
1 | Un | 29 Ionawr 2008 |
Dau | 14 Ebrill 2008 | |
Pedwar | 19 Rhagfyr 2007 (DVD) 18 Awst 2009 (Blu-Ray) | |
2 | Un | 19 Ionawr 2010 |
Dau | 31 Awst 2010 | |
Pedwar | 25 Tachwedd 2009 | |
3 | Un | 5 Gorffennaf 2011 |
Dau | 18 Hydref 2010 | |
Pedwar | 27 Hydref 2010 |
Gellir brynu Damages hefyd ar Amazon Video on Demand ac ar yr iTunes Store.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol
- Gwefan DVD swyddogol (Sony Pictures Entertainment)
- Blog Damages (Sony Pictures Entertainment)