Daniel Davies, Felin-foel

gweinidog

Roedd Daniel Davies (24 Ebrill, 175616 Ebrill, 1837) yn weinidog gyda'r Bedyddwyr yn Felin-foel, Sir Gaerfyrddin.[1]

Daniel Davies, Felin-foel
Ganwyd24 Ebrill 1756 Edit this on Wikidata
Cenarth Edit this on Wikidata
Bu farw16 Ebrill 1837 Edit this on Wikidata
Felin-foel Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, gwëydd Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Davies ym Mwlchmelyn, Cenarth yn blentyn i Richard a Diana Davies. Roedd ei dad yn ddiacon mewn capel yng Nghastellnewydd Emlyn, er hynny ni fu gan Daniel fawr o ddiddordeb yn y byd crefyddol. Roedd yn "fwynhau chwantau ieuenctid" gan ddisgrifio'r cyfnod fel un pan "oeddwn yn rhedeg ar hyd y ffordd lydan sydd yn arwain i ddistryw". Pan oedd yn ei arddegau cafodd salwch difrifol ac roedd ofn y byddai'n marw ohono. Yn ôl y ffydd Gristionogol os yw unigolyn yn marw heb gael ei hachub gan Iesu Grist, byddai'n gwario tragwyddoldeb, wedi marw, yn yr Uffern yn cael ei gosbi am ei bechodau. Wedi dod mor agos i farwolaeth, heb gael ei hachub penderfynodd newid ei ffyrdd ac i chwilio am ffydd. Bu'n mynychu oedfaon a chyfarfodydd yr Annibynwyr, y Methodistiaid Calfinaidd a'r Bedyddwyr ond fu'r gwahaniaethau rhwng credoau ac arferion y tri enwad yn ei ddrysu. Ar ôl dwys ystyriaeth penderfynodd mai'r Bedyddwyr oedd agosa at arferion Beiblaidd yn eu hordinhadau. Ymunodd a chapel y Bedyddwyr gan gael ei fedyddio gan Stephen Davies, gweinidog Bedyddwyr Ffynnonhenri, Cynwyl Elfed ym 1775.[2]

Gyrfa golygu

Pan oedd Davies yn naw mlwydd oed dechreuodd gweithio fel bugail. Gan fod ei swydd yn un tymhorol gwariodd misoedd canol gaeaf, pan oedd yn segur o'i waith, yn mynychu ysgol i ddysgu Saesneg. Dyma'r unig addysg ffurfiol iddo ei dderbyn. Yn 13 mlwydd oed aeth i Gynwyl Elfed i weithio i farcer o'r enw Hywel Hywels. Bu gyda Hywels am ddwy flynedd cyn dychwelyd i dŷ ei dad, a oedd yn wëydd i ddysgu'r grefft ganddo. Wedi dysgu crefft y gwëydd bu'n gweithio mewn ffatrïoedd gwlân yng Nghynwyl Elfed, Ffynnonhenri ac Eglwyswrw.[1]

Yn Eglwyswr bu Davies yn dechrau oedfaon cyn i'r gweinidog, Mr Williams, yn mynd ati i bregeth. Cafodd ei annog gan aelodau'r capel yn Eglwyswrw i gynnal oedfa gyfan, gan gynnwys pregeth ond gwrthododd gan nad oedd yn credu ei fod yn gymwys. Symudodd yn ôl i Ffynnonhenri a chafodd ei annog i bregethu eto. Ar ryw Sul ym 1780 bu neb ar gael i gynnal yr oedfa yng Nghapel Bedyddwyr Llangynog, cangen o eglwys Ffynnonhenri. Cytunodd Davies i lenwi'r bwlch a phregethu am y tro cyntaf. Wedi hynny dechreuodd bregethu yn rheolaidd. Rhoddodd y gorau i'w gwaith fel gwëydd ac agorodd ysgol yn Rhydargaeau.[2]

Ym 1784 aeth ar daith bregethu trwy ogledd Cymru gan lwyddo i berswadio nifer fawr o bobl i ddod yn Gristionogion. Wedi iddo ddychwelyd adref yn niwedd 1785 ordeiniwyd Davies a Nathaniel Williams, un o'i gyd deithwyr i'r weinidogaeth, er mwyn iddynt hwy allu cynorthwyo gyda gwaith Y Parch Stephen Davies, oedd yn dechrau heneiddio. Aeth ar daith i'r gogledd eto, ond bellach gyda'r hawl i fedyddio'r rhai cafodd tröedigaeth dan ei weinidogaeth. Bu ar gyfanswm o 14 o deithiau yn y gogledd dros y blynyddoedd. Wrth deithio byddai'n cael galwad (cais) i fod yn weinidog ar rai o'r capeli newydd oedd yn cael eu sefydlu, ond wrthododd pob un. Ym 1791 derbyniodd galwad i fod yn weinidog ar gapel Felin-foel,[3] lle parhaodd am y 46 mlynedd nesaf. Roedd ei weinidogaeth yn Felin-foel yn un dra llwyddiannus. O fewn dim iddo ddechrau ar y gwaith cynyddodd nifer yr aelodau o 160 i dros 400. Bedyddiodd dros 700 o ddynion (does dim cofnod o sawl merch cafodd eu bedyddio ganddo) a bu'n moddion i sefydlu 4 o eglwysi newydd yn Sir Gaerfyrddin.[4]

Teulu golygu

Bu Davies yn briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Hannah Evans, bu iddynt briodi ym 1782 a chawsant tri mab a dwy ferch. Bu farw Hannah ym 1827, wedi ei marwolaeth ail briododd â gwraig o'r enw Rachel Davies.[2]

Marwolaeth golygu

Bu farw yn ei gartref yn Felin-foel yn 81 mlwydd oed.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "DAVIES, DANIEL (1756 - 1837), Felinfoel | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-05-20.
  2. 2.0 2.1 2.2 Seren Gomer neu, gyfrwng gwybodaeth cyffredinol, Cyf. XX - Rhif. 264 - Medi 1837: COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. DANIEL DAVIES Gweinidog y Bedyddwyr yn y Felinfoel, Llanelli. adalwyd 21 Mai 2020
  3. "CAPEL NEWYDD - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1868-07-17. Cyrchwyd 2020-05-20.
  4. Greal y Bedyddwyr neu ystorfa Efengylaidd, a chyfrwng hanesiaeth grefyddol a gwladol Cyf. XI Rhif. 130 Hydref 1837 COFIANT Y PARCH. DANIEL DAVIES, FELINFOEL adalwyd 21 Mai 2020
  5. Seren Gomer neu, gyfrwng gwybodaeth cyffredinol, Cyf. XXVII Rhif. 2 - Ebrill 1906: Y PARCH. CORNELIUS GRIFFITHS, CAERDYDD. adalwyd 21 Mai 2020