Eglwyswrw

pentref a chymuned yn Sir Benfro

Pentref a chymuned yng ngogledd Sir Benfro, Cymru, yw Eglwyswrw.[1] Fe'i lleolir ar y ffordd A487 tua 6 milltir i'r de o Aberteifi.

Eglwyswrw
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0133°N 4.7089°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000939 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map

Llifa Afon Gafren, ffrwd sy'n llifo i Afon Nyfer gerllaw, drwy'r pentref. Milltir a hanner i'r gorllewin ceir Castell Henllys, bryngaer fechan o Oes yr Haearn. Henllys oedd cartref hanesyddol George Owen. Ar un adeg cynhelid Ffair Feugan yma. Meugan yw sant y cwmwd. Dywed Wade Evans fod Meugan yn debygol o fod yn ddisgybl i Fartin, am fod Ffair Feugan yn cael ei chynnal ar y Llun ar ôl Gwyn Fartin. Daw'r comedïwr Steffan Evans o'r pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[3]

Aradu gyda cheffyl gwedd ar fferm ger Eglwyswrw

Tarddiad yr enw golygu

Cysegrwyd yr eglwys hynafol i Sant Gwrw neu Erow, sydd fel arall yn anhysbys (dyma'r unig le i ddwyn ei enw). Cleserouw yw'r ffurf Seisnigaidd a gofnodir mewn arolwg ar ran Coron Lloegr nôl yn 1292, h.y. eclesserouw, Eglwys Erouw.[4]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Eglwyswrw (pob oed) (724)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Eglwyswrw) (446)
  
63.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Eglwyswrw) (514)
  
71%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Eglwyswrw) (95)
  
31.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. Dictionary of Place-names of Wales; Gwasg Gomer, 2007; Tud 139.
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]