Daniel Davies, Abertawe
Roedd y Parch Daniel Davies, D. D. (15 Tachwedd 1797 – 19 Chwefror 1876) yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr Cymreig, a elwir hefyd yn "Y Dyn Dall".
Daniel Davies, Abertawe | |
---|---|
Ganwyd | 15 Tachwedd 1797 Llanfair-ar-y-bryn |
Bu farw | 19 Chwefror 1876 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguCafodd Davies ei eni ym Moelfre, Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin. Joshua Davies oedd ei dad. Roedd yn byw yn Nowlais, Merthyr Tudful tra'n fachgen[1] a aeth yn ddall ar ôl goroesi'r frech wen.[2] Yn 1815 derbyniwyd ef yn fyfyriwr yn Ysgol Brenhinol y Deillion, Lerpwl, lle nid yn unig y dysgodd sgiliau llaw, megis gwneud basgedi a gwehyddu, ond hefyd dysgodd siarad Saesneg.[3]
Gyrfa
golyguRoedd Davies yn 19 pan ddechreuodd bregethu yng Nghymru, i ddechrau gyda'r Presbyteriaid, ond yn fuan wedyn gyda'r Bedyddwyr. Yn yr 1820au bu'n pregethu i'r Bedyddwyr Cymreig yn Llundain, ond cafodd alwad i Gapel Bedyddwyr Cymraeg Bethesda yn Abertawe yn 1826, gan wasanaethu yno tan 1855. Bu'n pregethu mewn amryw o eglwysi yng Nghymru yn hwyrach yn ei fywyd. Roedd yn gefnogol iawn o addysg y wladwriaeth ac addysg cyfrwng Saesneg i blant Cymraeg.[4] Roedd yn nodedig am ei ddeallusrwydd a frwdfrydedd am ddysgeidiaeth; bu i un ffrind ddweud am ei bregethu, "He was like one of those transatlantic steamers that must be seen in deep waters to be appreciated." Rhestrodd y Parch D. T. Phillips ef fel un o'r "princes of the pulpit" yn hanes Cymru.[5] Bu farw'r pregethwr Cymraeg Christmas Evans yng nghartref Daniel Davies yn 1838, ac fe bregethodd Davies yn ei angladd.[6]
Cafodd ei lun wedi ei dynnu gan y ffotgraffydd John Thomas fel hyn ddyn. Bu farw'r Parchedig Ddr. Davies yn 1876, yn 78 oed. Mae ei fedd yn Abertawe, mewn claddgell yng Nghapel y Bedyddwyr Cymraeg gynt ym Methesda. Roedd yn briod; roedd ei wraig wedi marw cyn 1856.[7] Roedd ganddo o leiaf un merch a'i goroesodd, sef Mrs. J. Rowlands o Lanelli.[8][8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Charles Wilkins, The History of Merthyr Tydfil (J. Williams and Sons 1908): 335–337.
- ↑ William Cathcart, ed., The Baptist Encyclopedia (L. H. Everts 1883): 309–310.
- ↑ Morris Brynllwyn Owen, "Daniel Davies" Dictionary of Welsh Biography (National Library of Wales 2009).
- ↑ John Vyrnwy Morgan, The Life and Sayings of Kilsby Jones: Congregational Minister (Elliot Stock 1896): 164.
- ↑ Rev.
- ↑ Christmas Evans, J. Davis, Memoir and Sermons of the Rev.
- ↑ "Testimonial to the Rev.
- ↑ John Innes, Old Llanelly (1902): 170.