Christmas Evans
Un o bregethwyr mawr y Bedyddwyr oedd Christmas Evans (25 Rhagfyr 1766 - 19 Gorffennaf 1838).[1]
Christmas Evans | |
---|---|
Ganwyd | 25 Rhagfyr 1766 Llandysul |
Bu farw | 19 Gorffennaf 1838 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Bywgraffiad
golyguCafodd ei eni mewn bwthyn bychan o'r enw Esgair Wen, yn Nyffryn Lynod nepell o bentref Tre-groes, plwyf Llandysul, Ceredigion.[2]
Roedd yn fab i Samuel a Joanna Evans. Crydd o Llangeler oedd ei dad a Joanna Lewis oedd ei fam.[3] Bu farw ei dad ym 1775, pan oedd Evans tua 9 mlwydd oed gan adael y teulu mewn tlodi mawr. Symudodd i fyw gyda'i ewyrth ar ochr ei fam, James Lewis, Bwlchog, Llanfihangel-ar-arth. Dyn meddw ac angharedig oedd yr ewythr, a fu'n cam-drin ei nai mewn modd creulon. Arhosodd gydag ef, am y chwe blynedd. Ni chafodd gymaint â diwrnod o ysgol pan oedd yn blentyn, ac yr oedd yn ddwy ar bymtheg oed cyn cael cyfle i ddysgu darllen [4]
Gyrfa
golyguYmadawodd Evans a chartref ei ewyrth pan oedd yn 16 mlwydd oed ac aeth i weithio fel gwas ffarm. Un o'i gyflogwyr oedd Dafydd Dafis, Castell Hywel. O dan ddylanwad ei feistr cafodd tröedigaeth grefyddol. Ymunodd ag eglwys y Presbyteriaid Arminaidd yn Llwynrhydowen, lle dysgodd darllen y Gymraeg a'r Saesneg.
Ychydig wedi ymuno â chrefydd daeth awydd arno i ddechrau pregethu ac fe dderbyniwyd yn bregethwr lleyg pan oedd tua 19 oed. Aeth i ysgol ei feistr am gyfnod o chwe mis.[4]
Trwy golli gwaith a thalu am ei addysg achosodd cyfnod Evans yn yr ysgol straen ariannol. Penderfynodd mynd i Loegr, lle'r oedd cyflogau gwell ar gael, i chwilio am waith dros gyfnod y cynhaeaf fel y gallai fforddio dychwelyd i'r ysgol. Dioddefodd ymosodiad ffyrnig gan ladron wrth deithio. Trawodd un ef yn ei lygad chwith gyda darn o bren, gan achosi iddo golli'r golwg ynddo.[5]
Wedi gwella o'i anafiadau dychwelodd i orllewin Cymru. Bu'n gweithio fel gwas ffarm yn Aberdyar ger Llanybydder. Daeth yn gyfeillgar a dyn o'r enw Mr Amos. Roedd Amos wedi symud o'r Presbyteriaid Arminaidd i'r Bedyddwyr, wedi trafodaethau efo Amos am y gwahaniaeth rhwng bedydd plentyn a bedydd oedolion benderfynodd Evans wneud yr un peth. Cafodd ei fedyddio yn Afon Dyar gan y Parch Timothy Thomas ym 1788.[6]
Ym 1789 daeth rhai o Fedyddwyr y gogledd i gynulliad yr enwad a gynhaliwyd ym Maes-y-Berllan, Sir Frycheiniog. Roedd y gogleddwyr am gael cymorth gyda'r ymgyrch i gael gweinidogion ar rai o'u heglwysi newydd. Cytunodd Evans i fynd ar daith bregethu trwy Fôn ac Arfon. Derbyniodd wahoddiad i wasanaethu fel gweinidog eglwysi Bedyddwyr Llŷn. Cafodd ei ordeinio yn weinidog yn Salem, Ty'ndonnen, Botwnnog ym mis Awst 1789.[3]
Doedd dim llawer o raen ar bregethu Evans ar y pryd. Roedd yn dysgu ei bregethau ar ei gof ac yn eu llefaru ar dafod yn wreiddiol.[7] Yn fuan yn ei yrfa yn Llŷn clywodd y Parch Robert Roberts, Clynnog yn pregethu mewn ffordd ddramatig, danllyd a byrfyfyr a phenderfynodd Evans i fabwysiadu'r arddull yna o bregethu. "Roedd y meddyliau ynof," meddai Evans, "ond Robert Roberts roes allwedd y level i mi." [8] Wedi newid ei arddull, daeth Evans yn un o bregethwyr mwyaf ei enwad yn y cyfnod.[1] Ym 1972 cyhoeddodd y Parch Jubilee Young recordiad ohono'i hyn yn traddodi un o bregethau Christmas Evans gan ddefnyddio cyngor Evans ar sut i bregethu wrth ei draddodi.[9]
Ar ôl ddwy flynedd yn Llŷn symudodd i Ynys Môn ym 1791 a bu'n byw yno ac yn pregethu ledled yr ynys am 35 mlynedd. Roedd yn gyfrifol am holl gapeli'r Bedyddwyr ar yr ynys am gyflog o £17 y flwyddyn (cyfwerth a gwerth llafur o tua £24,000 yn 2019 [10]). Bu'n fyw yn nhŷ capel, Capel Cildwrn yn Llangefni. Yn fuan ar ôl cyraedd Môn bu diwygiad ar yr ynys a arweiniwyd ganddo ef a'r pregethwr Calfinaidd poblogaidd John Elias. Rhwng 1795 a 1798 ceisiodd y Parch. J. R. Jones, Ramoth berswadio ei gyd Fedyddwyr o ddilysrwydd dysgeidiaeth Robert Sandeman ac Archibald McClean , ac ym 1798 cychwynnodd hollt ymhlith yr eglwysi. Am gyfnod denwyd Christmas Evans at y safbwyntiau hyn, ond fel y cyfaddefodd yn ddiweddarach, fe wnaeth barn Sandemanaidd yrru ei "ysbryd gweddi er iachawdwriaeth pechaduriaid" i ffwrdd. Ailddechreuodd ei uniongrededd, a daeth yn ffigwr canolog ym mudiad Bedyddwyr yn Ynys Môn.[11]
Yng nghanol y 1820au ac yntau'n tynnu at 60 mlwydd oed roedd Evans yn ddechrau llesgau oherwydd ei flynyddoedd o deithio i bregethu. O herwydd ei lafur a diwygiadau crefyddol, cynyddodd nifer achosion y Bedyddwyr, ond ef oedd yr unig weinidog o hyd. Ceisiodd cael rhai o'r capeli cangen ffurfio yn eglwysi ar wahân. Gwrthododd rhai o'r capeli i wneud hynny. Cytunodd rhai i wneud ond yn gwahodd dynion roedd Evans yn anghymeradwyo i fod yn weinidogion arnynt. Achosodd hyn drwgdeimlad a hyd yn oed bygythiadau i fynd ag Evans i'r llys. Ar ben hyn bu farw ei wraig a chafodd waeledd a effeithiodd ar olwg ei lygad da. Gan hynny penderfynodd ymadael a'r ynys.[12]
Ym 1826 derbyniodd galwad i fod yn weinidog ar Fedyddwyr cylch Caerffili gan aros yno am ddwy flynedd cyn symud i Gaerdydd. Bu yng Nghaerdydd o 1828 i 1832. Roedd gan Eglwys y Bedyddwyr Caerdydd cyfansoddiad democrataidd, lle'r oedd yr aelodau a'r blaenoriaid yn gyfrifol am nifer o bethau roedd Evans yn credu dylai bod o dan awdurdod y gweinidog yn unig. Doedd ei gyfnod yno ddim yn un hapus. Caernarfon oedd ei ofalaeth olaf o 1832 hyd ei farwolaeth.[3]
Cyfansoddodd nifer o emynau adnabyddus, e.e. "Dwy fflam ar ben Calfaria" a "Rhwn sy'n gyrru'r mellt i hedeg".
Oherwydd ei niferus gofidiau a'i gyfamodau gyda Duw i ddod trwyddynt, fel gwnaeth Cristion, prif gymeriad Taith y Pererin; gelwir Evans yn 'Bunyan Cymru' ar ôl y pregethwr enwog ac awdur y llyfr John Bunyan.[11]
Teulu
golyguBu Evans yn briod ddwywaith ei wraig gyntaf oedd Catherine Jones, aelod o'i gynulleidfa yn Salem, Ty'ndonnen, bu iddynt briodi ym 1789 a bu hi farw ym 1823. Roedd ei ail wraig, Mary Jones, yn arfer gweithio fel morwyn iddo yn Llangefni. Bu iddynt briodi ym 1828 [13] ar ôl iddi hi fynd gydag ef i Gaerffili. Ni fu plant o'r naill briodas na'r llall.
Marwolaeth
golyguYm mis Ebrill 1838 derbyniodd capel Bedyddwyr Caernarfon rhybudd i dalu dyled o £300 oedd wedi ei godi am waith adfer. Heb ddigon o adnoddau gan y capel i wneud hynny aeth Evans ar daith bregethu hir trwy Gymru er mwyn ceisio codi'r arian. Ar ôl teithio am dros ddeufis pregethodd yn Abertawe ar 15 Gorffennaf. Tariwyd ef yn wael gyda erysipelas [14] ar ôl y gwasanaeth, a bu dim modd iddo barhau a'r daith. Arhosodd yn Abertawe yng nghartref y Parch Daniel Davies (y dyn dall) lle fu farw pedwar diwrnod yn ddiweddarach.[15] Claddwyd ei weddillion ym mynwent Capel Bethesda, Abertawe.[16]
Llyfryddiaeth
golyguCeir cofiannau iddo gan E.P. Hood (1881) a B.A. Ramsbottom (1985).
- Cofiant, neu, Hanes bywyd y diweddar Barch. Christmas Evans (1839) (gan W. Morgan, Caergybi), 1839
- Memoir of the life, labors and extensive usefulness of the Rev. Christmas Evans : a distinguished minister of the Baptist denomination in Wales gan David Phillips Copi ar Internet Archive
- Sermons & Memoir of Christmas Evans gan Joseph Cross, (1851); Copi ar Internet Archive
- Christmas Evans : the preacher of Wild Wales, his country, his times and his contemporaries Paxton Hood Copi ar Internet archive
- Gweithiau y Parch. Christmas Evans (Caernarfon 1898), tair cyfrol dan olygiaeth Owen Davies (Gwenlyn Evans, Caernarfon, 1898);
- Christmas Evans (Llandysul 1938) gan J. T. Jones (Gwasg Gorner, 1938);
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Jones, J. T., (1953). EVANS, CHRISTMAS (1766 - 1838), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac un o bregethwyr enwocaf Cymru. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 22 Gor 2020
- ↑ Shenton, Tim [2001]. "1", Christmas Evans - The life and times of the one-eyed preacher of Wales (Clawr caled) (yn Saesneg), Evangelical Press, tud. 44-45. ISBN 0-85234-483-X .
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Tout, T., & Jones, R. (2004, September 23). Evans, Christmas (1766–1838), Baptist minister. Oxford Dictionary of National Biography. adalwyd 22 Gorffennaf 2020
- ↑ 4.0 4.1 Seren yr ysgol Sul; Cyf. 1 rhif. 1 - Ionawr 1895. Hen Gewri Pulpud y Bedyddwyr Rhif 1 – Christmas Evans adalwyd 22 gorffennaf 2020
- ↑ Cross, Joseph (1851); Sermons & Memoir of Christmas Evans, Philadelphia : W.A. Leary tud 19 adalwyd 22 Gorffennaf 2020
- ↑ Owens, B. G., (1953). THOMAS, TIMOTHY, I (1720-1768),), o'r Maesisaf, Pencarreg (Caerfyrddin), gweinidog y Bedyddwyr ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 22 Gor 2020
- ↑ Y Traethodydd Cyf. CLV (652-655), 2000; Perfformio o’r Pulpud: Rhagarweiniad i'r maes adalwyd 22 Gorffennaf 2020
- ↑ Y Geninen Cyf. XII rhif. 2 - Ebrill 1894 Y DIWYGIAD METHODISTAIDD YN EI GYSYLLTIADAU CYFFEEDINOL A LLENYDDOL. ii. adalwyd 22 Gorffennaf 2020
- ↑ Jubilee Young Pregeth Christmas Evans 1766 Decca Qualitone DAF 212 adalwyd 22 Gorffennaf 2020
- ↑ Measuring worth
- ↑ 11.0 11.1 Yr Hauwr; Cyf. XIV rhif. 226 - Medi 1908: "Cyfammodau" Christmas Evans adalwyd 22 Gorffennaf 2020
- ↑ Cross, Joseph (1851); Sermons & Memoir of Christmas Evans, Philadelphia : W.A. Leary tud 33 adalwyd 22 Gorffennaf 2020
- ↑ Family Search Christmas Evans Wales, Glamorganshire, Parish Registers, 1538-1912 adalwyd 22 Gorffennaf 2020
- ↑ Rare diseases - erysipelas Archifwyd 2020-07-23 yn y Peiriant Wayback adalwyd 22 Gorffennaf 2020
- ↑ Seren Gomer cŷf. XXI - Rhif. 275 - Awst 1838 Marwolaeth y Parch Christmas Evans adalwyd 22 Gorffennaf 2020
- ↑ Find A grave Chrismas Evans adalwyd 22 Gorffennaf 2020
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Christmas Evans Archifwyd 2005-04-04 yn y Peiriant Wayback