Daniel Granville West
Gwleidydd Llafur Cymreig oedd Daniel Granville West, Barwn Granville-West (17 Mawrth 1904 – 23 Medi 1984).[1] Ar ôl sefydlu practis cyfreithwyr llwyddiannus, dan arweiniad egwyddorion Bedyddwyr Cymru, daeth yn sosialydd blaenllaw yn yr oes ar ôl yr Ail Ryfel Byd.[2] Fe'i bedyddiwyd yn Eglwys Bedyddwyr Saesneg y Tabernacl, Sir Fynwy, ac arhosodd yn aelod ymroddedig ar hyd ei oes. Yn amlwg yn yr wrthblaid yn ystod cyfnod Hugh Gaitskell yn y 1950au a dechrau'r 1960au, arhosodd yn ymrwymedig i gyfraith a threfn yng Nghymru, a gwladoli'r diwydiant rheilffyrdd. Cafodd ei ddychryn gan etifeddiaeth dirywiad yr Ymerodraeth Brydeinig a beiodd am gynyddu diweithdra yn y cymoedd.
Daniel Granville West | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mawrth 1904 Casnewydd |
Bu farw | 23 Medi 1984 Pont-y-pŵl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Priod | Vera Hopkins |
Cefndir
golyguGanwyd West yn Nhrecelyn, Sir Fynwy yn fab i John West ac Elizabeth (née Bridges) ei wraig . Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Trecelyn ac yna astudiodd y gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Cymru lle enillodd wobr gyntaf yr adran.
Gyrfa
golyguWedi cymhwyso ym 1929, gweithiodd West fel cyfreithiwr ym mhractis Chivers a Morgan oedd a siambrau ym Mhont-y-pŵl a Threcelyn.
Parhaodd traddodiad anghydffurfiol cryf i fod â phresenoldeb sylweddol yn y pleidiau Rhyddfrydol a Llafur yn gynnar yn yr Ugeinfed ganrif. Roedd Granville-West yn eiriolwr dros addysg anghydffurfiol fel Uwch-arolygydd yr Ysgol Sul. Ei bractis ef oedd yn gweithredu fel cyfreithiwr i Gymdeithas Bedyddwyr Sir Fynwy. Pan ddechreuodd y rhyfel roedd eisoes yn bersonoliaeth leol amlwg yn gwasanaethu fel cynghorydd ar Gyngor Sir Fynwy 1939-47. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gwasanaethodd yng Ngwarchodfa Gwirfoddolwyr y Llu Awyr Brenhinol, gan gael ei ddyrchafu'n Is-gapten Hedfan.[3]
Gyrfa Wleidyddol
golyguEnillodd West brofiad gwleidyddol rhwng y rhyfeloedd ar Gyngor Dosbarth Trefol Aberdarn rhwng 1934 a 1938, cyn cael ei wneud yn Gynghorydd Sir. Ar ôl i'r rhyfel ddod i ben cafodd ei ddadfyddino, a dychwelodd i'r proffesiwn cyfreithiol. Ailymunodd ag ef gyda'i bartner Emrys Morgan i ffurfio'r cwmni Granville-West a Morgan. Wedi'i annog gan lywodraeth Attlee i geisio sedd yn y senedd, fe ymgeisiodd am enwebiad Pont-y-pŵl oherwydd bod ei gwmni wedi cymryd drosodd practis Harold Saunders ym 1943, gan roi presenoldeb iddo mewn ardal Llafur diogel.[4]
Etholwyd West yn Aelod Seneddol (AS) dros Bont-y-pŵl mewn isetholiad ym mis Gorffennaf 1946. Fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Preifat Seneddol i James Chuter Ede, yr Ysgrifennydd Cartref, ym 1950, ond y flwyddyn olynol collodd Llafur yr etholiad cyffredinol. Roedd hefyd yn llywydd cangen De Cymru a Sir Fynwy o Gymdeithas y Swyddogion Prawf ac yn gadeirydd y Cyngor Cynghori ar Hedfan Sifil yng Nghymru. Yn ystod Argyfwng Suez roedd o blaid cefnogi safbwynt Israel yn erbyn yr Aifft a gynigiwyd gan lywodraeth Eden.[5] Yn y Tŷ gofynnodd gwestiynau’n gyson am gyflogaeth, lefelau diweithdra, yr ystadegau di-waith [6] a sut y gallai’r cymoedd elwa o feysydd Datblygu.[7] Gofynnodd am iawndal i lowyr, eu tenantiaethau [8] a, Cymorth Cenedlaethol i bensiynwyr.[9]
Bywyd Personol
golyguAr 12 Ionawr 1937 priododd Vera, merch J.Hopkins o Bont-y-pŵl. Fe symudon nhw i fyw i Brynderwen, Abersychan, Pont-y-pŵl, a chawsant fab a merch.[10]
Tŷ'r Arglwyddi
golyguYm 1958 West oedd un o'r tri enwebai Llafur cyntaf a ddewiswyd gan yr arweinydd Hugh Gaitskell i gael ei greu yn farwn am oes fel Barwn Granville-West, o Bont- y -pŵl yn Sir Fynwy trwy lythyrau patent. Fe olynwyd ef fel AS Pont-y-pŵl gan Leo Abse. Cyflwynodd ei araith gyntaf yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 26 Tachwedd 1958 gan son am yr angen am wella'r ddarpariaeth i ddysgu'r Gymraeg mewn ysgolion. Roedd yn Gymro ymroddedig iawn, yn angerddol am ei wlad a hawliau ei gydwladwyr. Roedd yn eiriolwr dros ehangu diwydiannol yng nghymoedd De Cymru, roedd yn gwrthwynebu dirywiad, gan hyrwyddo achos cynnal a chadw rheilffyrdd i Gomisiwn Trafnidiaeth Prydain .[11] Roedd yn gobeithio denu diwydiannau newydd yn ystod ymgyrch 'gwres gwyn dechnoleg' llywodraeth Harold Wilson. Roedd yn gwrthwynebu toriadau Dr Richard Beeching i'r gwasanaeth rheilffordd. Yn ystod y 1970au daeth prinder tai gweddus ynghyd â dirywiad diwydiannol yn ystod y cyfnod daeth yr Arglwydd Granville-West yn foderneiddiwr, yn cefnogi rhyddfreinio les ddeiliaid i ganiatáu i fwy o bobl dosbarth gweithiol anelu at fod yn berchen ar eu cartref eu hunain.
Marwolaeth
golyguBu farw'r Barwn Granville-West ym Mhont-y-pŵl yn 80 oed, a chladdwyd ei weddillion ym Mynwent Panteg, Pont-y-pŵl.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "WEST, DANIEL GRANVILLE, Barwn Granville-West o Bontypwl (1904-1984), gwleidydd Llafur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-10-16.
- ↑ D.W.Bebbington, 'Baptist Members of Parliament in the Twentieth Century', The Baptist Quarterly, (Pontypool, 1983) pp.257, 274.
- ↑ The Times, 'Lord Granville-West', obituary, 25 September 1984.
- ↑ "Granville-West and Morgan". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-20. Cyrchwyd 2018-06-05.
- ↑ J.Edmunds, The Left and Israel: Party-Policy Change and Internal Democracy, (Springer, 2000) App.2.
- ↑ HC Deb 08 October 1946 vol 427 cc28-9W.
- ↑ HC Deb 28 February 1956 vol 549 cc1000-1.; HC Deb 05 December 1957 vol 579 cc699-756.
- ↑ HC Deb 05 February 1951 vol 483 cc1378-406.; HC Deb 04 April 1951 vol 486 cc218-81.
- ↑ HC Deb 17 May 1950 vol 475 cc1306-48.
- ↑ "Granville-West, Baron, (Daniel Granville West) (17 March 1904–23 Sept. 1984) | WHO'S WHO & WHO WAS WHO". www.ukwhoswho.com. doi:10.1093/ww/9780199540891.001.0001/ww-9780199540884-e-164729. Cyrchwyd 2019-10-16.
- ↑ HL Hansard, 25 June 1959, col.247.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Arthur Jenkins |
Aelod Seneddol | Olynydd: Leo Abse |