Ysgol Sul
Ysgol sy'n darparu addysg grefyddol i blant (ac oedolion hefyd, yn hanesyddol) ac sy'n rhan o eglwys Gristnogol yw ysgol Sul.[1]
Hanes
golyguMae'n debyg taw Robert Raikes a drefnodd yr ysgol Sul gyntaf, yng Nghaerloyw ym 1780. Ei nod oedd i ddarparu addysg elfennol yn ogystal ag addysg grefyddol i blant a weithiodd mewn ffatrïoedd ar bob diwrnod arall yr wythnos. Ymledodd y syniad ar draws Prydain, ac yn hwyrach yr Unol Daleithiau. Sefydlwyd Undeb Ysgol Sul Llundain ym 1803 a'r Undeb Ysgol Sul Americanaidd ym 1817. Roedd y mudiad ysgol Sul yn elfen o eglwysi Protestannaidd yn bennaf.[2]
Cymru
golyguYng Nghymru sefydlwyd mudiad yr Ysgolion Sul yn negawd olaf y 18g gyda'r bwriad o ddarparu addysg grefyddol ar gyfer y werin, yn blant ac oedolion.[3] Ystyrir yr ysgolion Sul Cymreig fel parhad o fudiad addysg arloeswyr cynnar fel Griffith Jones, Llanddowror. Tyfodd y mudiad yn gyflym ar ddechrau'r 19g dan arweiniad Thomas Charles o'r Bala gan ymledu o eglwysi'r Methodistiaid i'r Bedyddwyr ac eraill. Un o effeithiau pwysicaf yr Ysgol Sul yng Nghymru oedd lledaenu llythrenedd, sef y gallu i ddarllen ac ysgrifennu Cymraeg a hynny mewn cyfnod pan waharddwyd y Gymraeg yn ysgolion y wlad.[3] Un o ganlyniadau hynny oedd twf y wasg Gymraeg yn y 19g ac adfywiad mewn llenyddiaeth Gymraeg a arweiniodd yn y pendraw at dwf Radicaliaeth wleidyddol wrth i'r werin ddeffro. Roedd y mudiad yn ei anterth yn y cyfnod 1870-1920.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Sunday school. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Medi 2014.
- ↑ Chambers Dictionary of World History (Caeredin, Chambers, 2004), t. 803.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).