Agor y brif ddewislen

Leo Abse

gwleidydd Llafur, cyfreithiwr a meinciwr cefn blaenllaw

Gwleidydd dros y Blaid Lafur ac Aelod Seneddol oedd Leopold Abse (22 Ebrill 191719 Awst 2008).

Leo Abse

Cyfnod yn y swydd
1958 – 9 Mehefin, 1983
Rhagflaenydd Daniel Granville West
Olynydd diddymwyd yr etholaeth

Aelod Seneddol dros Torfaen
Cyfnod yn y swydd
9 Mehefin, 1983 – 11 Mehefin 1987
Rhagflaenydd etholaeth newydd
Olynydd Paul Murphy

Geni 22 Ebrill 1917(1917-04-22)
Caerdydd, Cymru
Marw Awst 19, 2008(2008-08-19) (91 oed)
Ysbyty Charing Cross, Llundain, Lloegr
Plaid wleidyddol Llafur
Priod Marjorie Davies (1955–1996)
Ania Czepulkowska (2000–2008)
Plant Tobias, Bathsheba
Alma mater Ysgol Economeg Llundain
Galwedigaeth Cyfreithiwr

Daeth yn Aelod Seneddol dros etholaeth Pontypŵl yn 1958; yn ddiweddarach bu'n Aelod Seneddol dros etholaeth Torfaen.

Bu farw yn Ysbyty Charing Cross, Llundain, nos Fawrth 19 Awst 2008 ar ôl salwch byr.

Bywyd cyn gwleidyddiaethGolygu

Cafodd Abse ei eni yng Nghaerdydd ar 22 Ebrill 1917, yn fab i gyfreithiwr Iddewig o'r enw Rudolf Abse a oedd yn berchennog sinema yn y brifddinas. Roedd yn frawd i'r llenor Dannie Abse a'r seicdreiddydd Wilfred Abse. Aeth i Ysgol Uwchradd Howard Gardens yng Nghaerdydd cyn astudio'r gyfraith yn Ysgol Economeg Llundain (LSE).

Ymunodd â'r Blaid Lafur yn 1934, pan oedd yn 17 mlwydd oed. Yn 1939 aeth ar daith gyfrinachol i Sbaen i weld dyddiau olaf y Rhyfel Cartref. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n gwasanaethau yn yr Awyrlu Brenhinol. Aeth i'r Dwyrain Canol, lle gafodd ei arestio yn 1944 am alw ar wladoli Banc Lloegr yn ystod "Senedd y Lluoedd" yng Nghairo (cyfarfod o filwyr Prydeinig yn dadlau'r gymdeithas yr oeddent yn dymuno ei gweld yn dilyn y rhyfel).

Ar ôl dychwelyd i Brydain dechreuodd ar ei waith fel cyfreithiwr a sefydlodd y practis Leo Abse and Cohen yn 1951. Erbyn heddiw mae'r cwmni yn cyflogi rhyw 150 o bobl yn ei swyddfeydd yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd. Yn 2007 atgofiodd Abse stori o'r dyddiau yma mewn cyfweliad: sylweddolodd roedd ffioedd roedd yn derbyn o droseddwyr i gyd yn dod o'r un gyfrif banc. Darganfu taw ficer oedd yn cael ei orfodi i dalu gan y troseddwyr oedd daliwr y cyfrif. Dywedodd Abse i un o'r troseddwyr os oedd yn derbyn siec arall o'r dyn bydd yn sicrhau dedfryd carchar o 10 mlynedd i'r troseddwr; dywedodd Abse i'r ficer i gysylltu â fo os oedd yn cael ei ddychrynu gan y troseddwyr eto.[1]

Gyrfa seneddolGolygu

Daeth Leo Abse yn Aelod Seneddol dros etholaeth Pontypŵl yn 1958.

Roedd Abse yn ffigwr amlwg yn y garfan o aelodau seneddol Llafur Cymreig - yn cynnwys Neil Kinnock - a adnabyddir fel y Gang o Chwech, a wrthwynebodd ddatganoli i Gymru yn refferendwm datganoli 1979. Yn ogystal â rhybuddio am y gost, cael haen arall o lywodraeth, a'r bygwth honedig i undod y Deyrnas Unedig, prif ddadl Abse oedd y byddai'r Cymry di-Gymraeg yn colli allan i'r Cymry Cymraeg pe bai cynulliad yn cael ei greu yng Nghaerdydd. Credir fod gwrthsafiad Abse a'r ASau Llafur Cymreig eraill, o dde-ddwyrain Cymru yn bennaf, wedi cyfrannu'n sylweddol at y bleidlais nacaol a wrthododd sefydlu cynulliad.[2] Yn ystod yr ymgyrch, bu Abse yn un o sawl unoliaethwr yn yr 20g i awgrymu cymhariaeth rhwng cenedlaetholdeb Cymreig a ffasgaeth: "When high certitudes collapse, and faith becomes overcrowded with doubt, the resulting alienation in society can lead, as we know from the example of Nazi Germany, to regressive choices being made: the choices of xenophobia and Nineteenth Century Nationalism are being offered to use on March 1st."[3]

Yn ddiweddarach bu'n Aelod Seneddol dros etholaeth Torfaen.

Bywyd personolGolygu

Priododd Abse yr arlunydd Marjorie Davies yn 1955 a chafon nhw ddau blentyn, Tobias a Bathsheba. Bu farw Davies yn 1996 a phriododd Ania Czepulkowska, arlunydd ifanc o Wlad Pwyl, yn 2000.

CyhoeddiadauGolygu

  • Private Member (Jonathan Cape, Llundain, 1973) ISBN 0356046028
  • Margaret, Daughter of Beatrice (Jonathan Cape, Llundain, 1989)
  • Wotan, My Enemy (Robson Books, Llundain, 1994) ISBN 0860519104
  • The Man behind the Smile (Robson Books, Llundain, 1996) ISBN 1861053649
  • Fellatio, Masochism, Politics and Love (Robson Books, Llundain, 1997) ISBN 1861053517
  • Tony Blair: The Man who lost his Smile (Robson Books, Llundain, 2003) ISBN 1861056982
  • The Bi-Sexuality of Daniel Defoe: A Psychoanalytic Survey of the Man and his Works (Karnac Books, 2006) ISBN 1855754568

LlyfryddiaethGolygu

  • Grey, Antony. Quest for Justice: Towards Homosexual Emancipation (Sinclair-Stevenson, Llundain, 1992) ISBN 1856191559
  • Jeffery-Poulter, Stephen. Peers, Queers and Commons (Routledge, Llundain, 1991) ISBN 0415057604
  • Roth, Andrew. Cofnod "Leo Abse" o fewn Parliamentary Profiles A-D (Parliamentary Profiles Services Ltd, Llundain, 1984) ISBN 0900582219

CyfeiriadauGolygu

  1. (Saesneg) Coming out of the dark ages. The Observer (24 Mehefin, 2007). Adalwyd ar 22 Awst, 2008.
  2. John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1992), tud. 651.
  3. Richard Wyn Jones, 'Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru': Plaid Cymru a'r Cyhuddiad o Ffasgaeth (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2013), tt. 18–19.

FfynonellauGolygu

Cysylltiadau allanolGolygu

  • (Saesneg) Leo Abse – ei wefan bersonol
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Thomas Griffiths
Aelod Seneddol Pont-y-pŵl
19581983
Olynydd:
diddymu'r etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol orfaen
19831987
Olynydd:
Paul Murphy