Dant y llew a chacamwci

Mae dant y llew a chacamwci yn ddiod sydd wedi ei hyfed yn Ynysoedd Prydain ers yr Oesoedd Canol. Yn wreiddiol roedd yn fath o fedd ysgafn, ond dros y blynyddoedd mae wedi esblygu'n ddiod feddal garbonedig sydd ar gael yn fasnachol heddiw [1].  Yn draddodiadol cafodd ei wneud o wreiddiau dant y llew (Taraxacum officinale) a chacamwci (Arctium lappa) wedi ei eplesu. Credir bod y ddau blanhigyn yn fuddiol at yr iau[2].

Potel o ddant y llew a chacamwci
Botel o bop dant y llew a chacamwci

Hanes 

golygu

Mae dant y llew a chacamwci yn rhannu'i darddiad hanesyddol gyda nifer o ddiodydd a wnaed yn wreiddiol o ddarnau gwraidd wedi eu heplesu’n ysgafn, megis cwrw gwraidd a sarsaparilla, yn bennaf oherwydd budd iechyd honedig.

Yn ddiweddar (2017), mae dant y llew a chacamwci wedi gweld cynnydd mewn poblogrwydd ar ôl cyfnod o werthu gwael.

Cynhwysion 

golygu

Mae "dant y llew a chacamwci" yn debygol o gynnwys nifer o gynhwysion sydd yn gyffredin i ddiodydd tebyg gan gynnwys dŵr carbonedig, melysyddion, lliwiau, asid ffosfforig o bosibl, asid sitrig yn ogystal â rhin dant y llew a chacamwci i roi blas naturiol.

Efelychiadau ac amrywiadau

golygu

Mae'r ddiod "dant y llew a chacamwci" sydd ar werth mewn nifer o siopau bellach, yn anaml yn cynnwys unrhyw gynhwysyn sy’n deillio o blanhigyn. Mae'r diodydd sy’n cael eu manwerthu yn aml yn ddŵr carbonedig, sy'n cynnwys melysyddion artiffisial a chyflasynnau[3]. Mae rhai archfarchnadoedd yn gwerthu'r ddiod gyda "rhin planhigion go iawn" sydd yn rhoi blas mwy ffyddlon na'r rhai a wnaed gyda chyflasynnau artiffisial.

Mae Fentimans, cwmni diodydd botanegol o Hexham yn gwerthu'r hyn maent yn hysbysu i fod yn atgynhyrchiad ffyddlon o'r ddiod dant y llew a chacamwci gwreiddiol[4] sydd yn cynnwys darnau go iawn o’r planhigion (er taw ei brif gynhwysion yw siwgr a sudd gellyg).

Mae'r olaf o dafarnau dirwest gwreiddiol y DU, Fitzpatrick's yn Rawtenstall, a agorodd ym 1890, yn dal i gynhyrchu ei dant y llew a chacamwci i rysáit gwreiddiol a ddygwyd drosodd o'r Iwerddon ar ddiwedd y 19g[5].

Mewn diwylliant poblogaidd

golygu

Ar y rhaglen sesiynau acwstig Spin dywedodd Alex Turner, prif leisydd y grŵp  Arctic Monkeys bod y gân ar eu halbwm "Suck it and See" wedi ei ysbrydoli gan y blas a’r teimlad ceir wrth yfed can o bop dant y Llew a chacamwci.[6]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Lewis-Stempel, John (2010), The Wild Life, Black Swan, ISBN 978-0-5527-7460-4
  2. Organic foodee
  3. AG Barr D'nB
  4. gwefan Fentiman's adalwyd 7 Ebrill 2017
  5. Rawtenstall raises the bar adalwyd 7 Ebrill 2017
  6. Alex Turner - Suck It And See ar YouTube