Dirwest

Mae'r achos dirwest yn symudiad cymdeithasol sy'n ymgyrchu yn erbyn defnyddio a gwerthu alcohol ar gyfer hamdden, ac yn hyrwyddo llwyrymwrthod ag alcohol ym mysg ei aelodau a chefnogwyr. Rhwng y 1830au a'r 1870au daeth dirwest yn ganolfaen i gredoau moesol enwadau Anghydffurfiol. Oherwydd ymrwymiad y Cymry i Anghydffurfiaeth, fe ddaeth yn achos pwysig yn hanes Cymru yn y 19g a'r 20g.

Y Dirwestydd.jpg
Y Dirwestydd, cylchgrawn llwyrymwrthod Cymraeg cynnar (1836)
Data cyffredinol
Mathmudiad cymdeithasol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hanes y gairGolygu

Ystyr gwreiddiol y gair Cymraeg dirwest yw aros, gorffwys, treulio'r noson, mae'r gair yn perthyn i'r un tarddiad a gwesty. Datblygodd y gair i olygu ymatal achlysurol rhag gwneud gweithgareddau megis yfed, bwyta, cael pleserau corfforol. Yna datblygodd i olygu cymedroldeb wrth fwynhau pleserau'r byd. Yn nechrau'r 19g datblygodd y gair eto i olygu llwyrymwrthod ag alcohol. [1] Mae'r erthygl hon yn ymwneud a'r ystyr diweddaraf o'r gair.

Hanes yr achosGolygu

Mae'r syniad o bobl yn ymwrthod ag alcohol am resymau moesol yn hen un. Mae'r Hen Destament yn sôn am lwyth y Rechabiaid, cenedl oedd yn gwrthod yfed gwin a diodydd tebyg. [2] Un o lysenwau Dewi Sant oedd Dewi Ddyfrwr, gan nad oedd ef na'r gymdeithas o fynachod yr oedd yn eu harwain yn yfed diodydd alcoholig. [3] Mae Bwdistiaid ac aelodau o'r dosbarth Hindŵ Brahman wedi ymwrthod ag alcohol ers y 6g OC a dilynwyr selocaf Islam wedi ymwrthod ers y 7g OC [4]

 
Gin Lane, Hogarth

Erbyn canol y 18g roedd bodolaeth yr Ymerodraeth Brydeinig wedi sicrhau bod digonedd o siwgr i wneud rỳm a grawn i wneud wisgi a jin ar raddfa fawr a thrwy hynny bod yn ddigon rad i'r tlawd yfed gwirodydd am y tro cyntaf. [5] Roedd diwygwyr cymdeithasol yn ystyried bod lefelau uchel o or-yfed alcohol a meddwdod yn berygl i les cymdeithas, gan arwain at broblemau cymdeithasol fel tlodi, esgeuluso plant, anfoesoldeb a dirywiad economaidd. Roedd gin craze yn rhai o ddinasoedd Lloegr, a chafodd ei ddarlunio yng nghartŵn enwog William Hogarth, Gin Lane. [6] Daeth y dosbarth canol yn fwyfwy beirniadol o feddwdod eang ymhlith y dosbarthiadau is. Daeth yfed jin yn destun dadl genedlaethol feirniadol. [7] Ym 1743, cyhoeddodd John Wesley, sylfaenydd yr Eglwys Fethodistaidd, "fod prynu, gwerthu ac yfed gwirod, oni bai bod hynny'n hollol angenrheidiol, yn ddrygau i'w hosgoi". [8] Roedd pryderon tebyg i'w cael yn y trefedigaethau Americanaidd ac yn parhau yn yr Unol Daleithiau newydd. Ym 1784 cyhoeddodd Dr Benjamin Rush papur am effeithiau gwirodydd cryf ar iechyd: An Inquiry Into the Effects of Ardent Spirits Upon the Human Body and Mind, a farnodd bod gormodedd o alcohol yn niweidiol i iechyd corfforol a seicolegol. Wedi ei ddylanwadu gan ymchwiliad Dr. Rush, ffurfiodd tua 200 o ffermwyr mewn cymuned yn Connecticut gymdeithas ddirwestol ym 1789 i ymgyrchu am wahardd gwneud wisgi yn y dalaith. Ffurfiwyd cymdeithasau tebyg yn Virginia ym 1800, a Thalaith Efrog Newydd ym 1808. Dros y degawd nesaf, ffurfiwyd sefydliadau dirwest eraill mewn wyth talaith, Roedd y mudiad ifanc yn caniatáu yfed cymedrol ac yn ymgyrchu ar sail iechyd ac ymddygiad cymdeithasol.

Ym 1825 aeth gweinidog Presbyteraidd, Lyman Beecher, ar daith pregethu lle fu'n annog i'w gwrandawyr i ddod yn ddirwestwyr ar sail moesau Cristionogol. Ym 1826 sefydlwyd yr American Temperance Society. Lledaenodd y mudiad yn gyflym, o fewn 12 mlynedd roedd gan y mudiad fwy nag 8,000 o ganghennau lleol a dros 1,250,000 o aelodau.

Dechreuodd y mudiad dirwest yn ynysoedd Prydain ym Melffast, pan dywalltodd, John Edgar, gweinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Iwerddon yr holl wirodydd oedd yn ei dŷ trwy ffenestr gan egluro i'r Belfast Telegraph ei fod wedi gwneud hynny i annog dirwest. [9]. Sefydlwyd y gymdeithas dirwest cyntaf yn ynysoedd Prydain yng Nglasgow ym 1829 gan John Dunlop a'i fodryb Lilias Graham sef y Glasgow and West of Scotland Temperance Society. [10]

Ym 1830 bu rhwyg yn y mudiad dirwest yn yr Unol Daleithiau, rhwng dirwestwyr cymedrol oedd yn ymgyrch yn erbyn gwirodydd ond yn caniatáu yfed cwrw a'r dirwestwyr mwy radical oedd am lwyrymwrthod a phob diod alcoholaidd. Sefydlwyd y gymdeithas gyntaf o ddirwestwyr radical yn ynysoedd Prydain yn Preston ym 1833. Ym 1834 cyhoeddodd y Gymdeithas honno cylchgrawn dirwest cyntaf gwledydd Prydain The Preston Temperance Advocate. Ym 1835 cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Y Cymedrolwr o dan olygyddiaeth Owen Jones ('Meudwy Môn') y cylchgrawn cyntaf i hyrwyddo dirwest trwy'r Gymraeg.[11]

Sefydlwyd Cymdeithas Hyrwyddo Dirwest Prydain ym 1835 i uno cymdeithasau dirwest yn y pedair gwlad.

Dirwest gwleidyddolGolygu

 
Frances Willard, dirwestwraig a swffragét

Bu gwedd wleidyddol i ddirwest yn ogystal ag un crefyddol. Roedd rhai o arweinyddion y Siartwyr yn cefnogi achos dirwest. Yn wyneb gwrthodiad senedd y dydd i roi’r hawl i bleidleisio i bobl y dosbarth gweithiol, roedd y siartwyr dirwest yn gweld yr ymgyrch yn erbyn alcohol fel ffordd i brofi i’r gwleidyddion fod pobl y dosbarth gweithiol yn ddigon cyfrifol a moesol i gael y bleidlais. Roedd dirwestwyr yn lobio'r llywodraeth ar bethau megis deddfau trwyddedu, cynyddu'r dreth ar ddiodydd a chyfyngu amseroedd agor. Roedd gan y Blaid Ryddfrydol adran ddirwestol "Y Ffederasiwn Dirwest". Roedd y Ceidwadwyr yn dueddol o gefnogi buddiannau'r bragwyr a'r distyllwyr ac yn gwrthwynebu unrhyw ymgais i niweidio eu busnesau. Deddf Cau Tafarnau ar y Sul (Cymru) 1881 oedd penllanw ymgyrch wleidyddol dirwestwyr Cymru.

Roedd dirwest yn achos o bwys i ferched. Roedd y ddiod gadarn yn arwain rhai dynion i gam drin eu gwragedd a'u plant a byddai rhai yn gwario gormod o'u hincwm ar ddiod heb adael digon ar ôl i gynnal eu teuluoedd.[12] Gan hynny ffurfiwyd y mudiad rhyngwladol Undeb Dirwestol Cristnogol y Menywod. Rhoddodd yr Undeb y cyfle i fenywod i chwarae rôl gyhoeddus am y tro cyntaf. Bu profiad menywod o arwain ym maes dirwest yn elfen bwysig yn natblygiad yr ymgyrch i roi hawl i bleidleisio i fenywod.[13]

Dirwest CymraegGolygu

 
Robert Everett

Sefydlwyd y gangen Gymraeg gyntaf o'r achos dirwest radical gan y Parch Robert Everett yn Eglwys Gymraeg yr Annibynwyr yn Utica Efrog Newydd ym 1830. Sefydlwyd y gangen gyntaf o'r achos dirwest cymedrol Gymraeg ym Manceinion ym 1832 a'r achos radical gyntaf yn Lerpwl ym 1833

Trwy lythyr gan Everett a gyhoeddwyd yn y Dysgedydd ym 1834 y cyflwynwyd dirwest llwyrymwrthodol i'r eglwysi Cymraeg yng Nghymru.[14] Cafodd yr achos dirwest ymysg y Cymru Cymraeg hwb fawr arall ym 1835 pan aeth Gweinidog dirwestol Cymreig o'r Unol Daleithiol, Benjamin William Chidlaw, ar daith bregethu drwy Gymru, i ymarfer ei Gymraeg, gan bregethu am lwyrymwrthodiad mewn tua 80 o wahanol gapeli.[15]

Y pregethwr amlwg Cymraeg brodorol gyntaf i gefnogi dirwest radical oedd y Parch Henry Rees a draddododd bregeth nodedig yn Sasiwn yr Wyddgrug, 1834 o'r Methodistiaid Calfinaidd, o blaid llwyrymwrthodiad. Pan sefydlwyd Cymdeithas Hyrwyddo Dirwest Prydain ym 1835 roedd tua 45 mil o'r 120 mil o aelodau yn Gymry Cymraeg. [16]

Yn ôl traethawd am hanes yr achos dirwest yn yr enwadau Cymraeg a ysgrifennwyd gan Carneddog yng Nghylchgrawn Cymru ym 1900 sefydlwyd y gangen gyntaf o'r achos ym Meddgelert, a chanwyd yr englyn gyntaf i lwyrymwrthod gan Pedr Fardd:[16]

Aed o'n plith edyn y pla,—yr yfed,
A'r ofer gyfedda:
Sipwyr doent yn sobr a da—
O! Dduw, atal ddiota."

Erbyn y 1840au roedd yr achos dirwest wedi troi i fod yn ymgyrch torfol. Cynhaliwyd gorymdeithiau trwy drefi yn cael eu harwain gan fandiau dirwest. Ysgrifennodd cerddorion fel William Owen (Prysgol)[17] anthemau dirwest i ganu wrth orymdeithio. Cynhaliwyd cymanfaoedd a ralïau cyhoeddus dirwestol ym mhrif drefi Cymru gyda miloedd yn eu mynychu. Ym 1848 sefydlwyd cymdeithas dirwest i ieuenctid, y Gobeithlu (Band of Hope), i annog ieuenctid i beidio dechrau yfed ac i roi pwysau ar eu rhieni i ddod yn ddirwestwyr. Daeth mynychu cyfarfodydd canol wythnos y Gobeithlu, yn gymaint o arfer a mynychu'r Ysgol Sul ar y Saboth i blant o deuluoedd crefyddol.[18]

 
Kilsby Jones

Rhoddodd diwygiad 1859 hwb sylweddol i'r achos dirwest gan fod disgwyl i ddychweledigion y diwygiad i broffesu dirwest.[19] O ddechrau'r 1860au i ddiwedd y 1960au, byddai disgwyl i bob ymgeisydd am y weinidogaeth, pob pregethwr lleyg a phob swyddog yn y capeli Cymreig i fod yn ddirwestwyr. Er hynny nid oedd pob un o'r hen do o weinidogion yn cefnogi achos dirwest. Roedd Caledfryn [20] a Kilsby Jones[21] yn feirniadol iawn o'r achos. Rhan o'u gwrthwynebiad oedd bod yna berygl i'r eglwys anghofio am ei genhadaeth i bregethu Crist trwy wario gormod o'i amser yn pregethu am bynciau cymdeithasol. I raddau, profwyd eu pryderon yn gywir. Erbyn troad y 19g a'r 20g drodd Efengyl Gras yn ddim byd mwy nag Efengyl Gymdeithasol yn y rhan fwyaf o'r capeli Cymraeg. Ond "er gwaethaf y sylw a gawsai materion cymdeithasol mewn cyhoeddiadau a chynadleddau Cristnogol, (roedd) yr Anghydffurfwyr Cymraeg yn bendant wedi methu â'u troi'n fesurau ymarferol"[22] Gyda chymaint o sefydliadau amgen, mwy ymarferol, at greu newid cymdeithasol dechreuodd y dirywiad yn y niferoedd yn ymaelodi a mynychu capeli Cymru. A gan fod achos dirwest yng nghlwm ag achos Anghydffurfiaeth methodd i barhau fel achos annibynnol i Anghydffurfiaeth. Wrth i'r capel dod yn llai pwysig i fywyd cymdeithasol Cymru daeth dirwest hefyd yn llai pwysig.

Mae dirwestwyr a chymdeithasau dirwest yn dal i fodoli yng Nghymru heddiw, ond mae eu dylanwad bellach yn nesaf peth i ddim o gymharu â'u grym o ganol y 19g hyd ganol y 20g.

CyfeiriadauGolygu

  1. Geiriadur y Brifysgol-dirwest adalwyd 12 Hydref 2021
  2. Jeremia pennod 35 (Beibl William Morgan).
  3. BBC Cymru Tyddewi adalwyd 12 Hydref 2021
  4. Britannica Alcohol and Society, History of the use of alcohol, in early societies adalwyd 12 Hydref 2021
  5. Rorabaugh, W.J. (1981). The Alcohol Republic: An American Tradition. Oxford University Press. pp. 20-21. ISBN 978-0-1950-2990-1.
  6. Hogarth’s London: Gin Lane and Beer Street adalwyd 12 Hydref 2021
  7. Yeomans, Henry (2014). Alcohol and Moral Regulation: Public Attitudes, Spirited Measures and Victorian Hangovers. Policy Press. tud. 37. ISBN 9781447309932.
  8. Williams, William Henry (1984). The Garden of American Methodism: The Delmarva Peninsula, 1769-1820. Peninsula Conference of the United Methodist Church. p. 151. ISBN 9780842022279.
  9. Peter, Fryer (1965). Mrs. Grundy: Studies in English Prudery. Corgi Books.
  10. Schrad, Mark Lawrence (2010). The Political Power of Bad Ideas: Networks, Institutions, and the Global Prohibition Wave. Oxford University Press, USA. p. 35. ISBN 978-0-19974-235-6.
  11. Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cyf. 28, rh. 2, Gaeaf 1993 Huw Walters-Y WASG GYFNODOL GYMRAEG A'R MUDIAD DIRWEST, 1835-1850 adalwyd 12 Hydref 2021
  12. Merched a dirwest; A. Parry (Blaenanerch.), 1882
  13. Barn "Canmlwyddiant y bleidlais i fenywod" adalwyd 12 Hydref 2021
  14. Cofiant y diweddar Barch Robert Everett, David Davies (Dewi Emlyn), Utica, 1879 tud 24
  15. Benjamin William Chidlaw, The Story of My Life Philidelphia 1890 tud 78
  16. 16.0 16.1 Yr Ymdrech Dirwest, Carneddog, Cymru. Cyf. 19, tud 176, 1900 adalwyd 12 Hydref 2021
  17. "WILLIAM OWEN PRYSGOL WEDI MARW - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1893-07-25. Cyrchwyd 2021-10-11.
  18. "Y GOBEITHLU (THE BAND OF HOPE) - The Merthyr Telegraph and General Advertiser for the Iron Districts of South Wales". Peter Williams. 1859-02-19. Cyrchwyd 2021-10-11.
  19. Y diwygiwr Mai 1859 tud 152 "Y Diwigiad" adalwyd 12 Hydref 2021
  20. Y Cofiadur Rhif 621 Mai 1998 Tudalen: 16 Annibynwyr dan yr ordd adalwyd 12 Hydref 2021
  21. Cristion 591 Awst 1993Tudalen: 10 "Kilsby" adalwyd 12 Hydref 2021
  22. Y Cofiadur .Rhif 631 Mai 1999Tudalen: 24 "Codi muriau dinas Duw" adalwyd 12 Hydref 2021