Siop fawr hunan-wasanaeth a rennir yn sawl adran ac sy'n cynnig ystod eang o fwyd a deunyddiau domestig yw archfarchnad. Mae'n llawer mwy ei maint a'i dewis na siop groser draddodiadol. Mae cyfran helaeth ohonyn nhw yn perthyn i ychydig o gadwynni mawr fel Tesco, Sainsburys ac Asda. Oherwydd fod cyn lleied o'r cwmnïau mawr hyn yn rheoli cyfran helaeth o'r sector economaidd honno, gellir ei galw'n oligopoli.

Archfarchnad
Mathsiop groser, cyfleuster, adeilad masnachol, cwmni brics a morter, siop Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Siecio allan o archfarchnad

Mae'r archfarchnad arferol yn stocio bob math o gig, cynnyrch llaeth, bara, llysiau, ffrwythau a bwyd mewn tuns neu baced ac ati, yn ogystal ag eitemau eraill fel alcohol a sigarets, deunydd glanhau domestig, meddyginiaethau a bwyd anifeiliad anwes. Mae llawer o archfarchnadoedd yn gwerthu nwyddau ychwanegol fel dillad, nwyddau electronig, CDau a DVDs, teganau ac ati.

Adeilad mawr un-llawr yw archfarchnad fel rheol, heb fod ymhell o dref ond yn aml dim yng nghanol y dref ei hun. Mae'n denu cwsmeriaid trwy gynnig ystod eang o nwyddau am brisiau cymharol isel, i gyd dan yr un to. Ceir cyfleusterau fel maes parcio, toiledau, caffis a creches hefyd i wneud hi'n haws i deuluoedd a gwragedd tŷ siopio. Yn ogystal mae'n agor am oriau hir iawn, weithiau dydd a nos. Er mwyn denu cwsmeriaid mewn marchnad gystadleuol a phroffidiol mae rhaid i'r archfarnadoedd wario'n uchel ar hysbysebu.

Maen nhw'n torri pob cornel posibl i arbed gwario er mwyn cynnig nwyddau am brisiau cystadleuol. Ceiff rhai pethau fel bara, llefrith a siwgr, a bwydydd hanfodol eraill eu cynnig am brisiau isel iawn (loss-leaders) am eu bod yn gwybod bydd pobl yn prynu pethau eraill unwaith eu bod yn y stôr. Defnyddir certiau neu fasgedi gan y cwsmeriaid a thelir mewn cyfres o fannau talu. Mae rhai archfarchnadoedd yn dechrau defnyddio systemau 'talu-eich-hunain' i arbed y gost o gyflogi pobl ar y check-out, gydag un gweithiwr yn gallu cadw golwg ar hyd at bump o gwsmeriaid yn talu ar yr un pryd.

Mae nifer o bobl yn bryderus am effaith archfarchnadau ar drefi bychain a'r amgylchedd.

Gweler hefyd

golygu