Dar es Salaam
Dinas fwyaf Tansanïa yw Dar es Salaam (Arabeg:دار السلام "Mangre Heddwch"), gynt Mzizima. Mae Dar es Salaam yn ffurfio rhanbarth gweinyddol o fewn Tansanïa, ac wedi ei rhannu yn dair ardal weinyddol: Kinondoni yn y gogledd, Ilala yn y canolbarth a Temeke yn y de. Yn 2002, roedd poblogaeth y ddinas yn 2,497,940.
Math | dinas, dinas â phorthladd, y ddinas fwyaf, national capital, former national capital |
---|---|
Poblogaeth | 4,715,000 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Hamburg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dar es Salaam Region |
Gwlad | Tansanïa |
Arwynebedd | 1,393 km² |
Uwch y môr | 12 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 6.8161°S 39.2803°E |
Cod post | 10000–19999 |
Hyd 1996, Dar es Salaam oedd prifddinas Tansanïa, ond y flwyddyn honno daeth Dodoma yn brifddinas. Dar es Salaam yw'r ddinas bwysicaf o safbwynt economaidd ac mae'n aros yn brifddinas fasnachol y wlad. Mae'r boblogaeth yn tyfu 4.39% y flwyddyn, y trydydd cyflymaf yn Affrica a'r nawfed yn byd.