Dario Fo

sgriptiwr ffilm a chyfansoddwr a aned yn 1926

Llenor, canwr, ymgyrchydd gwleidyddol a dramodydd Eidalaidd oedd Dario Fo (24 Mawrth 192613 Hydref 2016), ac enillydd Gwobr Lenyddol Nobel ym 1997.[1] Ymhlith ei ddramâu enwocaf mae: Non tutti i ladri vengono a nuocere (The Virtuous Burglar), Gli arcangeli non giocano al flipper (Dydy Archangylion Ddim Yn Chwarae Pinball), Mistero Buffo, Morte accidentale di un anarchico (Accidental Death of an Anarchist), Non Si Paga! Non Si Paga! (Can't Pay? Won't Pay!), Clacson, trombette e pernacchi (Trumpets and Raspberries), Coppia aperta, quasi spalancata (Elizabeth: Almost by Chance a Woman) ac Il Papa e la strega (Y Pab a'r Wrach).

Dario Fo
GanwydDario Luigi Angelo Fo Edit this on Wikidata
24 Mawrth 1926 Edit this on Wikidata
Sangiano Edit this on Wikidata
Bu farw13 Hydref 2016 Edit this on Wikidata
Luigi Sacco Hospital Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Alma mater
  • Brera Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr theatr, actor llwyfan, sgriptiwr, cyfansoddwr, dramodydd, actor ffilm, darlunydd, arlunydd, bardd, cynllunydd llwyfan, dychanwr, ysgrifennwr, dylunydd gwisgoedd, actor, artist Edit this on Wikidata
Adnabyddus amArchangels Don't Play Pinball, Mistero Buffo, Accidental Death of an Anarchist, Can't Pay? Won't Pay!, Trumpets and Raspberries, Elizabeth: Almost by Chance a Woman, The Pope and the Witch, The Two-Headed Anomaly Edit this on Wikidata
Arddullcomedi Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolCommunist Refoundation Party Edit this on Wikidata
PriodFranca Rame Edit this on Wikidata
PlantJacopo Fo Edit this on Wikidata
PerthnasauAlessandro Fo, Laura Fo Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Nobel, Sonning Prize, Urdd Teilyngdod Diwylliannol Gabriela Mistral, Dinasyddiaeth Anrhydeddus Palermo, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel, Q3910482 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.dariofo.it/ Edit this on Wikidata
llofnod

"Gellir dadlau mai ef yw'r dramodydd cyfoes mwyaf poblogaidd drwy Ewrop,"[2] ac mae llawer o'i waith yn dibynnu ar ddawn yr actor i lenwi'r bylchau ei hun ac ymateb byw[2][3][3] a'r math o arddull Eidalaidd a elwir yn commedia dell'arte.[1]

Darlledwyd cyfres deledu o'i waith, Il teatro di Dario Fo, ar Sianel 2 yn yr Eidal. Roedd un o'r dramâu yn y gyfres, Parliamo di donne, (a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer y gyfres ac ail-ryddhawyd yn rhyngwladol fel Let's Talk About Women) yn ymdrin â themâu cyfoes megis ysgariad, rhyw a'r "Teulu Sanctaidd".[4] Yn y 2010au symbylodd y mudiad gwrth-awdurdod "Pum Seren".[5][5] a chyfeiriwyd ato gan eu harweinwyr fel "Y Meistr".[6]

Mae ei waith pièce célèbre, Mistero Buffo wedi'i berfformio ar hyd a lled Ewrop, Canada, ac America Ladin dros 30 mlynedd yn cael ei gydnabod fel un o'r gweithiau mwya dadleuol a phoblogaidd erioed. Fe'i disgrifiwyd gan y Fatican fel "y cablu mwyaf yn hanes y teledu".[1] Mae teitl Saesneg Non Si Paga! Non Si Paga! (Can't Pay? Won't Pay!) bellach wedi'i dderbyn yn yr iaith honno ac ar dafod leferydd.[7]

Llyfryddiaeth golygu

  • Mitchell, Tony (1999). Dario Fo: People's Court Jester (ehangwyd). London: Methuen. ISBN 0-413-73320-3.
  • Scuderi, Antonio (2011). Dario Fo: Framing, Festival, and the Folkloric Imagination. Lanham (Md.): Lexington Books. ISBN 9780739151112.

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Mitchell 1999, tud. 3
  2. 2.0 2.1 Mitchell 1999, tud. xiii
  3. 3.0 3.1 Mitchell 1999, tud. 4
  4. Mitchell 1999, tud. 147
  5. 5.0 5.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-04. Cyrchwyd 2014-01-04.
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-07. Cyrchwyd 2014-01-04.
  7. Gardner, Lyn (18 Ebrill 2010). "Low Pay? Don't Pay!". The Guardian. Cyrchwyd 18 Ebrill 2010.

Dolenni allanol golygu