Dartiau
Gêm lle teflir dartiau at ddartfwrdd – sef targed crwn ar wal – yw dartiau. Mae dartiau'n gêm gystadleuol broffesiynol yn ogystal â bod yn gêm dafarn draddodiadol. Mae'n boblogaidd yng Ngwledydd Prydain; y Deyrnas Unedig oedd y wlad gyntaf i gydnabod dartiau'n swyddogol. Mae hefyd yn boblogaidd yn y Gymanwlad, yr Iseldiroedd, Iwerddon, gwledydd Llychlyn, yr Unol Daleithiau, a gwledydd eraill.
Credir i'r gêm, a elwid ar un tro yn saethau, ddod yn boblogaidd yn oes y Tuduriaid gan saethwyr bwa saeth.