Cynwyd
- Erthygl am y pentref yw hon. Am y sant gweler Cynwyd (sant).
Pentref a chymuned yn Sir Ddinbych yw Cynwyd ( ynganiad ) (gynt yn yr hen Sir Feirionnydd). Saif ar y ffordd B4401, tua dwy filltir i'r de-ddwyrain o dref Corwen, lle mae Afon Trystion yn ymuno ag Afon Dyfrdwy. Gerllaw mae coedwig gonifferaidd Coed Cynwyd. Gorwedd y pentref yn Nyffryn Edeirnion, wrth droed Y Berwyn.
![]() | |
Math |
pentref, cymuned ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
52.959°N 3.406°W ![]() |
Cod SYG |
W04000150 ![]() |
Cod OS |
SJ056411 ![]() |
Cod post |
LL21 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Ken Skates (Llafur) |
AS/au | Susan Elan Jones (Llafur) |
Ceir yma ddwy dafarn, y Prince of Wales a'r Blue Lion, a cheir hostel ieuenctid. Yma hefyd mae lleoliad man sefydlu cwmni trelars Ifor Williams.
Saif Eglwys Llangar rhwng Cynwyd a Chorwen, un o eglwysi mwyaf nodedig Cymru.
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Susan Elan Jones (Llafur).[1][2]
EnwogionGolygu
- William Jones (emynydd) (1764-1822). Ganed yng Nghynwyd ond treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Y Bala.
- Robin Llwyd ab Owain. Prifardd. Ganwyd yn "Croeso" ger yr ysgol yn 1958.
DelweddauGolygu
Cyfrifiad 2011Golygu
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryn Saith Marchog · Bryneglwys · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Corwen · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Dinbych · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanelwy · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangollen · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prestatyn · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion