Seiclwr trac a ffordd proffesiynol oedd Dave Lloyd (ganwyd 12 Hydref 1949).[1]

Dave Lloyd
Ganwyd12 Hydref 1949 Edit this on Wikidata
Croesoswallt Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Dechreuodd rasio 1969 gan fwynhau gyrfa amatur llwyddiannus am sawl blwyddyn, gan ddod yn seithfed yn y Milk Race a chystadlu yng Ngemau Olympaidd 1972 ym München.[2] Trodd yn broffesiynol yn 1973 gan arwyddo cytundeb gyda Raleigh, a thros y tri blynedd canlynol enillodd Bencampwriaeth pursuit 5 kilomedr ddwywaith a gosododd record newydd cenedlaethol dros 50 milltir ar y ffordd. Yn 1976, gorfodwyd ef i gymryd ysbaid o dair mlynedd o rasio oherwydd cyflwr ei galon. Wedi ei wellhad, dychwelodd i rasio amatur. Am y chwe mlynedd canlynol roedd yn domineiddio rasio amatur ym Mhrydain, gan ennill 125 o'r 133 a gymerodd rhan ynddynt. Dychwelodd at rasio proffesiynol yn 1984 gan ymddeol o'r chwaraeon dwy flynedd yn ddiweddarach. Erbyn heddiw mae'n hyfforddwr seiclo.

Bu hefyd yn adeiladu fframiau beic am 13 mlynedd. Ynghyd a'i wraig Chris, dyfeisiodd y Skinsuit. Mae Dave lloyd yn byw yn ne'r Wirral, Swydd Gaer.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Proffil ar cyclebase.nl". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-20. Cyrchwyd 2007-10-09.
  2. "Gwefan swyddogol Gemau Olympaidd Prydain". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-03. Cyrchwyd 2007-10-09.

Dolenni allanol

golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.