David Bell (arlunydd)
arlunydd a bardd
Arlunydd a bardd o Gymro a aned yn Llundain oedd Ernest David Bell (4 Mehefin 1915 – 21 Ebrill 1959) a elwir gan amlaf yn David Bell. Cydweithiodd â'i dad, Syr Idris Bell, ar gyfieithiadau o gerddi Dafydd ap Gwilym o'r Gymraeg i'r Saesneg. Ym 1957 cyhoeddodd The Artist in Wales, llyfr a geisiodd ennyn ymateb i gelfyddyd yng Nghymru. Cafodd enseffalitis lethargica pan oedd yn 14 mlwydd oed a bu ei effaith arno am weddill ei fywyd.
David Bell | |
---|---|
Ganwyd |
4 Mehefin 1915 ![]() |
Bu farw |
21 Ebrill 1959 ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
mapiwr, bardd, ysgrifennwr ![]() |
Tad |
Idris Bell ![]() |
FfynhonnellGolygu
- Ernest David Bell, Y Bywgraffiadur Ar-lein