David Cecil (AS)
David Cecil (AS) (c. 1460 – Medi 1540) oedd 3ydd mab Richard Cecil ap Philip Seisyll o Allt-yr-Ynys. Mae'n bur debyg iddo farw ym Medi 1540 a'i gladdu yn Eglwys St George, Stamford. Bu'n Aelod Seneddol yn 1504, 1510, 1512, 1515 ac ym 1523.
David Cecil | |
---|---|
Ganwyd | 1460 |
Bu farw | 1541 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Serjeant at Arms of the British House of Commons, Member of the 1504 Parliament, Member of the 1510 Parliament, Member of the 1512-14 Parliament, Member of the 1515 Parliament, Member of the 1523 Parliament |
Tad | Richard Cecil |
Mam | Margaret Vaughan |
Priod | Alice Dickons, Joan Roos |
Plant | Richard Cecil |
Priododd ddwywaith, yn gyntaf i Alice, merch John Dicons o Stamford, Swydd Lincoln, a chawsant ddau fab ac yn ail gyda Jane, merch Thomas Roos o Dowsby, Swydd Lincoln (gweddw Edward Villers o Flore, Swydd Northampton), a chawsant un ferch.
Symudodd David Cecil (bu f. 1541), un o feibion Richard Cecil, gyda rhai o'i garennydd ym Mrycheiniog i Swydd Northampton. Yno bu'n gwasnaethu'r brenin Harri VII, a daeth yn un o weision siamber y brenin (yeoman of the chamber). Cafodd stiwardiaeth amryw o faenorau'r goron, a bu'n siryf Swydd Northampton yn 1529-1530.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- "CECIL DAVID, (c.1460-?1540), of Stamford, Lincs". Hist of Parliament Online. Cyrchwyd 2012-11-06.
- "The Family of David Seisyll". Cyrchwyd 2013-01-24.