David Davies (Dai'r Cantwr)
Bu'r baledwr Dai'r Cantwr (c. 1812 – 10 Awst 1874) (neu David Davies i roi iddo'i enw llawn) yn amlwg iawn yn Helyntion Beca; alltudiwyd ef i ugain mlynedd oherwydd ei ran yn yr ymgyrch.[1] Roedd yn ddyn tal â gwallt gwinau a barf browngoch.
David Davies | |
---|---|
![]() Un o faledi Dai'r Cantwr: Hiraeth am Gymru o Affrica, lle cafodd ei alltudio | |
Ganwyd | 1812 ![]() Llancarfan ![]() |
Bu farw | 10 Awst 1874 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
Ganwyd ef yn Nhregof (neu Dreguff ar lafar), Llancarfan,[2] a bu'n chwarelwr am rai blynyddoedd ac yn was fferm ac yn weithiwr diwydiannol yn Nhredegar cyn ymsefydlu ym Mhontyberem. Bu hefyd yn pregethu ac mae'n bosibl mai ef a enillodd y Delyn yn Eisteddfod y Fenni ym 1838.
Tra'n ceisio dychryn Rheolwr gwaith glo Pontyberem, gweiddodd, Ni chaiff Sais fod yn rheolwr yng Nghymru, mwyach! Fe'i daliwyd yn nhafarn y Plough and Harrow ym Mhump-hewl a'i gyfaill Sioni Sgubor Fawr yn y Tymbl. Yn y brawdlys yng Nghaerfyrddin ar 22 Rhagfyr dedfrydwyd Sioni i alltudiaeth am oes, a Dai'r Cantwr i ugain mlynedd o alltudiaeth.
Pan gyrhaeddodd Wlad Van Diemen's Land (neu Tasmania heddiw), roedd yn 31 oed a hynny yng gorffennaf 1844.
Y baledwr
golyguTra yng ngharchar Caerfyrddin, ysgrifennodd:
Drych i fyd wyf i fod,
Collais glod allswn gael.
Tost yw'r nod, ddyrnod hael
I'w gafael ddaeth a mi.
Yn fy iengtid drycfyd ddaeth,
Yn lle rhyddid - caethfyd maith,
Chwanegwyd er fy ngofid.
Alltud wyf ar ddechrau nhaith...
Cyhoeddwyd golygiad o'r faled hon yn erthygl E. Wyn James, ‘Baled hiraethlon Dai’r Cantwr o Lancarfan’, (Colofn ‘Llys a Llan’), Y Dinesydd, 494 (Chwefror 2025), 14-15. Ceir fersiwn electronig o'r erthygl ar wefan Y Dinesydd, yn yr adran 'Y Gymraeg yng Nghaerdydd a'r Fro': http://dinesydd.cymru/teithiau/
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 'Helynt y Beca' gan V. Eirwen Davies, tud 42; Gwasg Prifysgol Cymru, 1961.
- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-Lein, Y Llyfrgell Gendlaethol.