Agor y brif ddewislen

David Davies (Dewi Emlyn)

gweinidog gyda'r Annibynwyr yn U.D.A., bardd, ac awdur

Bardd a llenor Cymraeg oedd David Davies (9 Tachwedd 18172 Awst 1888), a adnabyddir gan amlaf wrth ei enw barddol Dewi Emlyn.

David Davies
Portrait of David (Dewi Emlyn) Davies (4673062) (cropped).jpg
Ganwyd 9 Tachwedd 1817 Edit this on Wikidata
Cenarth Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Awst 1888 Edit this on Wikidata (70 oed)
Pennsylvania Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth bardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

BywgraffiadGolygu

Brodor o Genarth yn Sir Gaerfyrddin oedd Dewi Emrys. Fel nifer o'ir gydwladwyr yn y cyfnod hwnnw, ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn ddyn ifanc i geisio byd gwell. Daeth yn adnabyddus yn y gymuned Gymreig yno fel bardd.

Nid oes llawer o werth llenyddol i waith barddol Dewi Emrys. Fe'i cofir yn bennaf heddiw am y gyfres o lythyrau honedig gan ferch ifanc o Gymru at ei chwaer yn America a gyhoeddwyd yn 1870 fel Llythyrau Anna Beynon. Ymddangosodd y rhain yn y cylchgrawn Yr Haul yn gyntaf ac roedd pobl yn meddwl bod Anna Beynon yn ferch gig a gwaed. Roedd yn dipyn o syndod pan gyhoeddodd Dewi Emlyn mai ef oedd yr awdur. Fel llenyddiaeth mae'r llythyrau dychymgol hyn yn cael eu gwerthfarwogi heddiw, ond codwyd ffrae am y "twyll" a ystyrid yn dipyn o sgandal gan rai.

FfynonellauGolygu

  • Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru)