David Hughes (addysgwr)

sefydlydd ysgol ramadeg rydd Biwmares

David Hughes (m. 1609) oedd sefydlydd Ysgol Ramadeg Rydd Biwmares (neu'r Free Grammar School).

David Hughes
Bu farw30 Medi 1609 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpennaeth Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn 1561 neu 1536, ym mhlwyf Llantrisant, Ynys Môn a bu farw yn 1609. Mynychodd Rhydychen. Ymsefydlodd yn Norfolk a phenodwyd ef yn stiward maenor Woodrising tua 1596. Sefydlodd yr ysgol ym Miwmares yn 1602. Yn ei ewyllys dyddiedig 30 Medi 1609 , gwaddolodd yr ysgol a gwnaeth ddarpariaeth hefyd i sefydlu elusendy yn Llanerch-y-medd ond ym Miwmares y codwyd yr elusendy.[1]

Cyfeiriadau golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • David Hughes, M. A., and his free grammar school at Beaumaris an historical essay, Bangor, 1864, 1864; ailgyhoeddwyd (gol. Vaughan Bowen) 1933;
  • E. Madoc Jones, The Free Grammar School of Beaumaris, yn Nhrafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn, 1922;
  • Adroddiadau'r Historical Manuscripts Commission, Gawdy MSS. 10fed Adroddiad, Appendix II, 67, 68, 96;
  • Report of the Charity Commission, rhan I, cyf. xli, 725;
  • J. E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, 1914, 52;
  • Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru 1527 (Kinmel MS. 27).