Castell Biwmares

castell ym Miwmares, Ynys Môn

Castell ar gyrion tref Biwmares, Ynys Môn, yw Castell Biwmares.

Castell Biwmares
Mathcastell Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1295 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd, Ardaloedd Cadwriaeth Biwmares Edit this on Wikidata
SirYnys Môn
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd6 ha, 2 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr5 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.264908°N 4.08957°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethEdward I, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, rhan o Safle Treftadaeth y Byd, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganEdward I, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddcalchfaen Edit this on Wikidata
Dynodwr CadwAN001 Edit this on Wikidata

Cafodd ei gynllunio gan James o St George yn gastell consentrig gyda ffos o'i gwmpas. Fe'i adeiladwyd ar lan Afon Menai gan Edward I, brenin Lloegr, rhwng 1295 a 1298, ar ôl gwthryfel Madog ap Llywelyn. Dinistriwyd tref Llan-faes yn y gwrthryfel hwnnw, a chafodd rhai o'r cerrig o'r fynachlog enwog eu defnyddio i godi'r castell. Am ryw reswm chafodd y castell byth ei gwblhau.

Cipiwyd y castell gan gefnogwyr Owain Glyndŵr yn ystod gwrthryfel y tywysog.

Ar 27 Gorffennaf 1593, cafodd yr offeiriad Catholig o Gymro William Davies, a gofir am ei ran yng nghyhoeddi Y Drych Cristianogawl, y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru, ei ddienyddio yn y castell trwy ei grogi, diberfeddu a chwarteru. Canoneiddwyd William Davies gan y Pab yn 1987.

Erbyn 1609 roedd y castell yn furddun.

Adeg Rhyfel Cartref Lloegr roedd castell Biwmares mewn man allweddol gan ei fod yn rheoli rhan o'r daith rhwng Iwerddon a Lloegr. Roedd teulu Thomas Bulkeley, wedi bod yn ymwneud â rheoli'r castell am ganrifoedd ac roedd Thomas Bulkeley yn gefnogol i'r Brenin. Erbyn 1646 roedd y Pengryniaid wedi cael buddugoliaeth ar luoedd y brenin. Gwrthryfeloedd Ynys Môn yn erbyn y Senedd eto yn 1648, ond bu rhaid iddyn nhw ildio yr ail waith yn yr Hydref.

Cynhaliwyd eisteddfod yng nghwrt y castell yn 1832.Oedd Castell Biwmares mond yn cymud 1 blunedd i gwyneud.

Mae'r castell yng ngofal Cadw, ac mae'n un o'r atyniadau pennaf i dwristiaid ym Môn. Fe'i gosodwyd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1986, fel rhan o'r safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Castles and Town Walls of King Edward in Gwynedd". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 31 Mai 2019.