Llantrisant, Ynys Môn

pentref ar Ynys Môn

Pentrefan yng nghymuned Tref Alaw, Ynys Môn, Cymru, yw Llantrisant[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir ar gyffordd wledig tua hanner ffordd rhwng Llanfaethlu i'r gorllewin a Llannerch-y-medd i'r dwyrain yng ngogledd-orllewin yr ynys, tua 8 milltir i'r dwyrain o Gaergybi. Mae'n blwyf eglwysig yn ogystal. Mae 138.4 milltir (222.7 km) o Gaerdydd a 221.4 milltir (356.3 km) o Lundain.

Llantrisant, Ynys Môn
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn, Tref Alaw Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.324°N 4.459°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH363835 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Llantrisant (gwahaniaethu).

Hanes a hynafiaethau golygu

Cyfeiria'r enw at y ffaith fod eglwys y plwyf yn gysegredig i dri sant, sef Afan, Ieuan a Sannan.[3] Yn yr Oesoedd Canol roedd y llan yn rhan o gwmwd Llifon, cantref Aberffraw.[4]

Cadwraeth golygu

Ar gwr gogleddol y pentref ceir Cors-y-bol, ardal o wlybtir a groesir gan ffrwd sy'n llifo i gronfa Llyn Alaw. Tua milltir i'r de ceir Llyn Llywenan.

Cynrychiolaeth wleidyddol golygu

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)[5] ac yn Senedd y DU gan Virginia Crosbie (Ceidwadwyr).[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Rhagfyr 2021
  3. Atlas Môn (Llangefni, 1972), tud. 158.
  4. Atlas Môn, tud. 37.
  5. Gwefan Senedd Cymru
  6. Gwefan Senedd y DU