David Jenkins (llyfrgellydd)
llyfrgellydd ac ysgolhaig
Llyfrgellydd ac ysgolhaig Cymreig oedd David Jenkins (29 Mai 1912 – 6 Mawrth 2002). Roedd yn Gymro Cymraeg. Fe'i cofir fel awdur bywgraffiad cofiant i'w gyfaill T. Gwynn Jones.[1]
David Jenkins | |
---|---|
Ganwyd | 29 Mai 1912 Cwm Clydach |
Bu farw | 6 Mawrth 2002 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llyfrgellydd, hanesydd |
Gwobr/au | CBE |
Roedd yn frodor o Flaenclydach yn y Rhondda. Symudodd gyda'r teulu, yn hogyn ysgol, i Geredigion. Ar ôl graddio o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle roedd yn un o fyfyrwyr olaf T. Gwynn Jones, fe'i penodwyd i staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu'n Brif Lyfrgellydd yno o 1969 hyd ei ymddeoliad yn 1979.[1] Yn 1971 cafodd ei wneud yn Athro Cymrodorol Anrhydeddus yn ei hen goleg.[2]
Gweithiau
golygu- Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Gwasg Gee, 1973)
- (gol.), Erthyglau ac Ysgrifau Llenyddol Kate Roberts (Abertawe: C. Davies, 1978)
- (gol.), Bro a Bywyd: T. Gwynn Jones 1871-1949 (Caerdydd: Cyngor Celfyddydau Cymru, 1984)
- Bro Dafydd Ap Gwilym (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion: 1992)
- O Blas Gogerddan i Horeb (Taith Dwy Ganrif) (Gwasg Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1993)
- A Refuge in Peace and War: The National Library of Wales to 1952 (Gwasg Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2002)
- Ar Lafar, Ar Goedd (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion: 2007)