Thomas Gwynn Jones

bardd ac un o lenorion mwyaf amlochrog Cymru, newyddiadurwr, cofiannydd, darlithiwr, ysgolhaig, athro, cyfieithydd
(Ailgyfeiriad oddi wrth T. Gwynn Jones)

Newyddiadurwr, bardd, ysgolhaig a nofelydd oedd T. Gwynn Jones, enw llawn Thomas Gwyn Jones (10 Hydref 18717 Mawrth 1949). Roedd T. Gwynn yn llenor amryddawn a wnaeth gyfraniad pwysig iawn i lenyddiaeth Gymraeg, ysgolheictod Cymreig ac astudiaethau llên gwerin yn hanner cyntaf yr 20g. Roedd hefyd yn gyfieithydd medrus o'r Almaeneg, Groeg, Gwyddeleg a Saesneg. Cafod ei eni yn Gwyndy Uchaf, Betws yn Rhos yn yr hen Sir Ddinbych (sir Conwy heddiw), a'i gladdu ym mynwent Heol Llanbadarn.

Thomas Gwynn Jones
T. Gwynn Jones (1871–1949) (gcf02648).jpg
Ganwyd 10 Hydref 1871 Edit this on Wikidata
Betws-yn-Rhos Edit this on Wikidata
Bu farw 7 Mawrth 1949 Edit this on Wikidata (77 oed)
Aberystwyth Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth newyddiadurwr, llyfrgellydd, bardd, ysgrifennwr, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plant Arthur ap Gwynn Edit this on Wikidata

Roedd yn fab i Issac a Jane Jones. Priododd Margaret Jane Davies yn 1899.

BywgraffiadGolygu

Cafodd T. Gwynn Jones ei addysg gynnar yn Ninbych ac Abergele. Daeth yn is-olygydd Baner ac Amserau Cymru (Y Faner) yn 1890. Ysgrifennodd gofiant ardderchog i'r cyhoeddwr Rhyddfrydol Thomas Gee sy'n ddrych i'w oes yn ogystal â'i waith. Yn 1894 symudodd i Lerpwl a dod yn is-olygydd i Isaac Foulkes. Erbyn 1898 roedd yn is-olygydd ar Yr Herald a'r Caernarvon and Denbigh Herald. Bu wedyn yn olygydd ar Bapur Pawb. Yn 1905, treuliodd sawl mis yn yr Aifft - Alexandria a Chairo - i geisio lleddfu diagnosis o'r diciâu. Yn 1908 bu'n o sylfaenwyr Clwb Awen a Chân yng Nghaernarfon.

Aeth i weithio i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn 1909 ar ôl blynyddoedd o newyddiadura, ac wedyn bu'n ddarlithydd yn yr adran Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn 1919 daeth yn athro llenyddiaeth Gymraeg yn y coleg hwnnw hyd at ei ymddeoliad yn 1937.

Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902 am ei awdl Ymadawiad Arthur, a hefyd yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1909.

Anrhydeddwyd ef â D.Lit. Prifysgol Cymru a Phrifysgol Iwerddon, ill dau yn 1938. Roedd yn wrthwynebydd cadarn yn erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cerddodd allan o Gapel Tabernacl, Aberystwyth pan weddïodd y gweinidog am fuddugoliaeth i Brydain yn y rhyfel.

OrielGolygu

Llyfryddiaeth ddetholGolygu

Llyfrau T. Gwynn JonesGolygu

  • Caradog yn Rhufain (Wrecsam, 1914). [Drama]
  • Dafydd ap Gruffydd (Aberystwyth, 1914). [Drama]
  • Tir na N-óg (Caerdydd, 1916). [Drama]
  • Dewi Sant (Wrecsam, 1916). [Drama]
  • Y Gloyn Byw (Y Drenewydd, 1922). [Drama]
  • Anrhydedd (Caerdydd, 1923). [Drama]
  • Y Gainc Olaf (Wrecsam, 1934). [Drama]
  • Y Dwymyn, 1934–35 (Caerdydd, 1972).
  • Dylanwadau (Bethesda, 1986).
  • Tudur Aled, (gol.) T. Gwynn Jones, Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926). [Golygiad mewn dwy gyfrol o gerddi Tudur Aled.]
  • Welsh Folklore and Folk Custom (Llundain, 1930). [Astudiaeth arloesol o lên gwerin Cymru.]
  • Marged Enid Griffiths, (gol.) T. Gwynn Jones, Early Vacation in Welsh (Caerdydd, 1937).
  • Pietro Mascagni, trosiad i’r Gymraeg gan Dyfnallt Morgan, (gol.) T. Gwynn Jones, Gwyddoch Amdano (Porthmadog, 1987).
  • Gounod, (gol. a chyf.) T. Gwynn Jones, Rhowch i mi nerth (Porthmadog, 1987).
  • Adolygiad/au: T. Gwynn Jones, Y Faner (17.2.89), 14.
  • Ymadawiad Arthur (Caernarfon, 1910). [Cerddi]
  • T. P. Ellis, Dreams and memories (Y Drenewydd, 1936), gyda T. Gwynn Jones, ‘Foreward’, t. Vii.
  • Caniadau (Wrecsam, 1934) [Cerddi]
  • Astudiaethau (Wrecsam, 1935). [Ysgrifau]
  • Beirniadaeth a Myfyrdod (Wrecsam, 1935). [Ysgrifau]
  • Brethyn Cartref (Caernarfon, 1913). [Straeon]
  • John Homer (Wrecsam, 1923). [Nofel]
  • Peth Nas Lleddir (Aberdâr, 1921).
  • Rhieingerddi’r Gogynfeirdd (Dinbych, 1915). [Astudiaeth o waith y Gogynfeirdd.]
  • Cymeriadau (Wrecsam, 1933). [Ysgrifau]
  • Detholiad o Ganiadau (Y Drenewydd, 1926).
  • Cerddi Hanes (Wrecsam, 1930).
  • Gwlad y gân (Caernarfon, 1902). [Cerddi]
  • Manion (Wrecsam, 1902).
  • ‘Rhagymadrodd’, yn (casg.) W. S. Gwynn Williams, Rhwng Ddoe a Heddiw: Casgliad o Delynegion Cymraeg, (Wrecsam, 1926), tt. 13–18
  • Emrys ap Iwan: Cofiant (Caernarfon, 1912). [Cofiant]
  • Llenyddiaeth y Cymry: Llawlyfr i Erfydwyr (Dinbych, 1915). [Hanes llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol.]
  • (Gol.) T. Gwynn Jones, Ceiriog (Wrecsam, 1927).
  • Llenyddiaeth Gymraeg y Bedwaredd ganrif ar bumtheg (Caernarfon, 1920)
  • (Casg. a gol.) T. Gwynn Jones, Y Gelfyddyd Gwta (Aberystwyth, 1929) .
  • (Gol.) T. Gwynn Jones, Talhaiarn (Aberystwyth, 1930).
  • Johann Wolfgang von Goethe, (tros.) T. Gwynn Jones, Faust (Caerdydd, 1922). [Cyfieithiad o waith mawr Goethe.]
  • (Deth. a chyf.) T. Gwynn Jones, Awen y Gwyddyl (Caerdydd, 1923). [Barddoniaeth Wyddeleg mewn cyfieithiad.]
  • Brithgofion (Llandybïe, 1944). [Darn o hunangofiant.]
  • (Gol.) T. Gwynn Jones, O Oes i Oes (Wrecsam, 1917).
  • Llyfr Gwion Bach (Wrecsam, 1924).
  • Plant Bach Tŷ Gwyn (Caerdydd, 1928).
  • Yn Oes yr Arth a’r Blaidd (Wrecsam, 1913).
  • Dyddgwaith (Wrecsam, 1937).
  • ‘Lluniau o Gawr y Llenor’, Barddas, rhif. 212–213 (Rhagfyr 1994–Ionawr 1995), t. 47.
  • ‘Rhagair’ yn Ioan Brothen, (gol.) John W. Jones, Llinell neu Ddwy (Blaenau Ffestiniog, 1942).
  • Cerddi Canu (Llangollen, 1942).
  • T. Gwynn Jones ac Arthur ap Gwynn, Geiriadur Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg (Caerdydd, 1950).
  • (Gol.) T. Gwynn Jones, Troeon Bywyd (Wrecsam, 1936).
  • Cerddi ’74 (Llandysul, 1974).
  • Bardism and Romance: a Study of the Welsh Literary Tradition (Llundain, 1914). [Astudiaeth]
  • Modern Welsh Literature (Aberystwyth, 1936).
  • Casgliad o eiriau llafar Dyffryn Aman (Caerdydd, 1931).
  • ‘Rhagair’, yn (gol.) John W. Jones, Yr Awen Barod: cyfrol goffa Gwilym Deudraeth (1863–1940) (Llandysul, 1943).
  • Gorchest Gwilym Bevan (Wrecsam, 1900).
  • Gwedi Brad a Gofid (Caernarfon, 1898). [Nofel]
  • Y Dwymyn, 1934–35 (Aberystwyth, 1944). [Cerddi]
  • Cultural Basis: a study of the Tudor period in Wales (, 1921).
  • Llenyddiaeth Wyddelig (Lerpwl, 1916).
  • Cân y Nadolig (Llangollen, 1945).
  • The Culture and Tradition of Wales (Wrecsam, 1927).
  • ‘Rhagair’ yn D. Emrys James, Odl a Chynghanedd (Llandybïe, 1961).
  • Cofiant Thomas Gee (Dinbych, 1913). [Un o'r cofiannau mwyaf trwyadl a welwyd yn y Gymraeg, ar fywyd a chyfnod y cyhoeddwr Thomas Gee.]
  • (Casg.) Llen Cymru (Caernarfon, 1921).
  • (Casg.) Llen Cymru: Rhan 2 (Caernarfon, 1922).
  • (Casg.) Llen Cymru: Rhan 3 (Aberystwyth, 1926).
  • (Casg.) Llen Cymru: Rhan 4 (Aberystwyth, 1927).
  • Homerus, (cyf.) R. Morris Lewis gydag ychwanegiadau, rhagair ac anodiadau T. Gwynn Jones, Iliad Homer, (Wrecsam, 1928).
  • Daniel Owen, 1836–1895 (Caerdydd, 1936).
  • Daniel Owen, (gol.) T. Gwynn Jones, Profedigaeth Enoc Huws (Wrecsam, 1939).
  • Y Cerddor (Aberystwyth, 1913).
  • Am ragor, gweler A Bibliography of Thomas Gwynn Jones (Casg.) Owen Williams (Wrecsam, 1938)
  • (cyf.), Blodau o Hen Ardd (1927). [ Epigramau Groeg mewn cyfieithiad]
  • Dychweledigion (1920). [Cyfieithiad o ddrama Henrik Ibsen]
  • Eglwys y Dyn Tlawd (1892)
  • Lona (1923). [Nofel]
  • (cyf.) Macbeth gan William Shakespeare (1942) [Cyfieithiad mydryddol grymus o ddrama enwog Shakespeare]
  • (cyf.), Visions of the Sleeping Bard (1940). [Cyfieithiad o Gweledigaethau'r Bardd Cwsg gan Ellis Wynne]

Beirniadaeth ac astudiaethauGolygu

  • Owen Williams (casg.) , A Bibliography of Thomas Gwynn Jones (Wrecsam, 1938)
  • "Rhifyn Coffa Thomas Gwynn Jones", Y Llenor cyf. 28 (Haf 1949)
  • W. Beynon Davies, Thomas Gwynn Jones (Caerdydd, 1970)
  • D. Ben Rees, Pumtheg o Wŷr Llên yr Ugeinfed Ganrif (Pontypridd, 1972)
  • Derec Llwyd Morgan, Barddoniaeth Thomas Gwynn Jones: Astudiaeth (Llandysul, 1972)
  • David Jenkins, Thomas Gwynn Jones - Cofiant (Gwasg Gee, 1973)
  • D. Hywel E. Roberts, Llyfryddiaeth T. Gwynn Jones (Caerdydd, 1981)
  • Gwynn ap Gwilym (gol.), Thomas Gwynn Jones (Llandybïe, 1982)
  • David Jenkins (gol.), Bro a Bywyd: T. Gwynn Jones 1871-1949 (Caerdydd, 1984)
  • Alan Llwyd, Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones, 1871-1949 (Aberystwyth, 2019)
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod T. Gwynn Jones ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.